Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.
Fel cenedl, rydyn ni’n ffynnu wrth hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithlu amrywiol yn arwain at wneud gwell penderfyniadau, mwy o greadigrwydd, timau cryfach a gweithleoedd hapusach – ac yn bwysicaf oll, dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Rolau amser llawn (37 awr) ar gael ar draws Gogledd Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bawb. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr ym maes addysg, tra bod ein tîm Cymru’n Gweithio yn gweithio gyda chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Gyrfa Cymru yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru, ac mae ein cynghorwyr yn angerddol am helpu unigolion i wireddu eu potensial.
Angen sgiliau Cymraeg lefel Sylfaenol/Canolradd o leiaf
Byddwch yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i fentro i’r farchnad lafur neu i ail-ymuno â'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a darparu cymorth wedi'i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy'n ddi-waith (tymor byr neu hirdymor), yn economaidd anweithgar, yn profi rhwystrau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd, neu sy'n ceisio newid gyrfa. Ewch i'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a chymorth wedi'i deilwra.
Byddwch hefyd yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol fel darparwyr hyfforddiant, y Ganolfan Byd Gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau eraill i helpu cwsmeriaid i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth gynaliadwy.
Mae cynghorwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau, gan gynnwys cymorth un-i-un, sesiynau cyflogadwyedd grŵp a chyflwyniadau gan ddefnyddio technolegau digidol.
Angen sgiliau Cymraeg Uwch
Mae'r rolau hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda'r rhai sydd wedi'u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd.
Sylfaenol/Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a ysgrifennu nodiadau anffurfiol byr.
Hyfedr: Gallwch ddeall yr hyn yr ydych yn ei glywed neu’n ei ddarllen yn rhugl, cyfathrebu’n rhugl ar bynciau cymleth, ac arwain neu gyfrannu at drafodaethau. Gallwch grynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac addasu eich arddull ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a lleoliadau. Rydych yn medru gweithio ar lefel broffesiynol, gan gyfathrebu trwy amrywiol ddulliau yn y Gymraeg.
Mae disgrifiadau swydd llawn a ffurflenni cais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru).
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydyn ni’n hyrwyddo gweithle sy'n rhydd o wahaniaethu, gan drin pawb gydag urddas a pharch trwy gydol y broses recriwtio a chyflogaeth.