A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gweinyddwr Cymorth Busnes System Dyletswydd Ar-alwad / Swyddle
Swydd:
Gweinyddwr Cymorth Busnes System Dyletswydd Ar-alwad
Lleoliad:
Gogledd Cymru
Cyflog:
£27,694 i £28,598
Cyfeirnod:
202512NW1
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru | NWFRS
Dyddiad Cau:
13-01-2026

Rydym yn edrych i benodi Gweinyddwr Cymorth Busnes, yn barhaol a fydd yn darparu cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol i'r tîm darparugwasanaethau a phersonél yr orsaf On-call/RDS yn ardal Conwy. Mae'r rôl yn gyfrifol am dasgau gweinyddu cyffredinol, gan gynnwys teipio llythyrau ac adroddiadau, ffeilio, trefnu gofynion cludo a logisteg, darparu apwyntiadau a nodiadau atgoffa cwrs i griwiau, cymryd nodiadau a chofnodion cyfarfodydd yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn darparu cymorth gweinyddol i'r tîm recriwtio ac argaeledd ar alwad, gan gynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau mewn gorsafoedd tân fel diwrnodau / nosweithiau agored a mynychu nosweithiau ymarfer i ddarparu cymorth gweinyddol yn y gorsafoedd tân rydych chi'n eu cefnogi.

Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau trefnu da i reoli eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â dyddiadau cau. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn addasadwy i newid i ddelio â cheisiadau wrth iddynt godi a chael y gallu i weithio'n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun.

Er bod y rôl wedi'i lleoli yng Nghonwy, mae'r rôl yn darparu cymorth i orsafoedd tân yn Ardal Wasanaeth Conwy, felly darperir cerbyd gwasanaeth i ymgymryd â theithio rhwng gorsafoedd yn yr ardal hon a lleoliadau gwasanaeth eraill yn ôl yr angen.

Bydd gofyniad hefyd i'r deiliad swydd weithio'n hyblyg, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i batrwm gwaith ansafonol. Bydd hyn yn cynnwys nosweithiau ar gyfartaledd unwaith yr wythnos a bydd yn denu lwfans ychwanegol o 8.5%.

Bydd y patrwm gweithio ansafonol hwn yn cyfrannu tuag at yr wythnos 37 awr. I'w drafod ymhellach yn y cyfweliad.

Fel sefydliad dwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (Lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r swydd hefyd yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.

Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i:
recruitment@northwalesfire.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 13 Ionawr 2026, gyda'r cyfweliad wedi'i drefnu ar gyfer 26 a 27 Ionawr 2026.

Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw'n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.