A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu) / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£28,400.00 - £35,500.00
Cyfeirnod:
REC01362
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
27-08-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Nodi gofynion y busnes a'u trosi'n dasgau dadansoddi data i sicrhau bod data a gwybodaeth ar gael i'r busnes fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau a fydd yn arwain at ganlyniadau busnes llwyddiannus.

  • Datblygu a darparu dangosfyrddau a delweddau adrodd, gan weithio ar y cyd â thimau busnes eraill er mwyn cael darlun gweithredol clir o'r busnes, a defnyddio PowerBI neu offer tebyg 

 

  • Datblygu llif gwaith peirianneg data drwy gydweithio â'r tîm Peirianneg Data i gynhyrchu setiau data ar gyfer adroddiadau, ymholiadau ad hoc ac ymchwiliadau

 

  • Canfod camgymeriadau data, anghysondebau a phroblemau posibl rhwng systemau neu gyda phrosesau busnes ar y cyd â'r Stiward Data (Cyllid a Llywodraethu) i ddod o hyd i gyfleoedd i wella systemau a phrosesau er mwyn symleiddio data yn y ffynhonnell a lleihau cymhlethdodau mewn gweithgareddau prosesu yn nes ymlaen 

 

  • Sicrhau bod ffynonellau data, prosesau busnes, adroddiadau a gweithgareddau prosesu yn cael eu cofnodi a’n bod yn cadw data ac yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n diwallu neu’n rhagori ar ein gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer preifatrwydd a diogelwch drwy fapio llif data a chadw cofnod o weithgareddau prosesu i sicrhau bod TrC yn cydymffurfio’n gyfreithiol/rheoleiddiol, yn deall y data sydd ganddynt a sut mae'n llifo drwy'r busnes, yn gwella ansawdd a chywirdeb data, yn effeithlon yn weithredol, yn rheoli risg data, yn symleiddio prosesau, yn lleihau costau ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn defnyddio data dibynadwy a chyson

 

  •  Cefnogi gweithgareddau symud a newid systemau drwy lanhau a gwirio data, gan weithio gyda thîm y prosiect i gynnal gweithgareddau glanhau/dilysu i sicrhau llwyddiant, dibynadwyedd a gwerth tymor hir y system newydd · Monitro a chynnal dangosfyrddau, delweddau ac adroddiadau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben a'u bod yn cael eu defnyddio gan y busnes drwy ddefnyddio offer dadansoddi i olrhain defnydd, amlder mynediad a pha feysydd sy'n cael eu defnyddio fwyaf, gan nodi adroddiadau sydd ddim yn cael eu defnyddio'n ddigonol ac ymchwilio i gael gwybod pam, dilysu cywirdeb data a sicrhau bod amserlenni adnewyddu data yn cyd-fynd ag anghenion busnes, ac yn parhau i fod yn berthnasol yn weledol ac yn swyddogaethol.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Mathemateg, Dadansoddi Data, Gwyddor Data neu Gyfrifiadureg neu brofiad proffesiynol cyfatebol neu debyg sy'n dangos y gallu i weithio a meddwl mewn modd dadansoddol ·
  • Sgiliau cyfathrebu gweledol gyda phrofiad o ddatblygu graffeg, siartiau a dangosfyrddau clir a hawdd eu deall gan ddefnyddio offer gwybodaeth fusnes fel PowerBI a Tableau a phrofiad o SQL, Python, neu DAX
  • Dealltwriaeth o reoli data da a deddfwriaeth berthnasol (GDPR y DU ac ati)
  • Sgiliau cynllunio a threfnu, a’r gallu i flaenoriaethu a bod yn hyblyg i ymateb i newidiadau a diweddariadau
  • Profiad o ddadansoddi ac egluro gwybodaeth gymhleth ar lafar ac mewn adroddiadau ysgrifenedig, ynghyd â phrofiad o ddata meintiol ac ansoddol

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**