A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Busnes / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Busnes
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£45,000
Cyfeirnod:
REC01495
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-12-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol o 2 flynedd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Diffinio'r galluoedd busnes a thechnegol sydd eu hangen yn y dyfodol i integreiddio busnes newydd yn llwyddiannus, gan ddylunio datrysiadau sy'n gwella effeithiolrwydd gweithredol TrC ac sy’n darparu profiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.

  • Darganfod, Dadansoddi a Rheoli Gofynion: Bod yn atebol am arwain y broses peirianneg gofynion ar draws nifer o ffrydiau gwaith. Mae hyn yn cynnwys hwyluso gweithdai gyda rhanddeiliaid o adrannau Rheoli Asedau, Cyllid ac Adnoddau Dynol, a chreu straeon defnyddwyr manwl, achosion defnydd, a manylebau gofynion busnes i sicrhau bod datrysiadau yn diwallu anghenion busnes.
  • Dadansoddi a Modelu Prosesau Busnes: Cynnal dadansoddiad manwl o brosesau a systemau cyflwr-cyfredol (“fel-y-mae”) yn y maes seilwaith. Bod yn gyfrifol am ddylunio a dogfennu prosesau a galluoedd cyflwr-y-dyfodol ("i-fod") sy'n cefnogi'r model gweithredu newydd, cymhleth.
  • Darparu Dogfennau a Dadansoddiadau Cadarn: Datblygu a chynnal elfennau allweddol i'w cyflawni o ran dadansoddi busnes drwy gydol oes y prosiect yn unol â methodolegau'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, achosion busnes, dogfennau gofynion, mapiau proses, a matricsau olrhain.
  • Cefnogi'r Gwaith o Ddylunio a Gweithredu Datrysiadau: Cydweithio â thimau TG, penseiri datrysiadau a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod dyluniadau technegol arfaethedig a datrysiadau a gyflwynir yn bodloni gofynion y busnes ac yn glynu wrth arferion gorau.

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Arbenigedd Prosesau Busnes: Profiad amlwg o ddadansoddi a gwella prosesau busnes cymhleth, gyda dealltwriaeth gref o reolaethau gweithredol ac adrodd ar berfformiad.
  • Gofynion Darganfod a Dadansoddi: Y gallu i hwyluso gweithdai a defnyddio technegau amrywiol i gofnodi, dadansoddi a dogfennu anghenion busnes a gofynion swyddogaethol.
  • Mapio a Dylunio Prosesau: Y gallu i ddogfennu prosesau "fel-y-mae" (gan ddefnyddio BPMN neu debyg) a dylunio datrysiadau "i-fod" effeithlon sy'n bodloni amcanion strategol.
  • Cydweithio â Rhanddeiliaid a Dylanwadu arnynt: Profiad o weithio gyda thimau technegol a busnes amrywiol (e.e. TG, Rheoli Asedau, Cyllid) i alinio datrysiadau ag anghenion busnes.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.