Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle i fod yn chi.
Cyfle i gael eich grymuso.
Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru.
Unigolyn Graddedig Rheoli Prosiectau Bysiau
Lleoliad: Pontypridd neu Wrecsam
Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis
Mae’r swydd hon yn cynnig gweithio hybrid o swyddfa Pontypridd/Wrecsam ac o gartref, oriau gweithio hyblyg a theithio’n achlysurol i’r safle neu leoliadau swyddfa eraill yn ôl yr angen
Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion
P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun wedi’i gynllunio i’ch helpu chi sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru.
Beth fydd fy nghyfrifoldebau?
Bydd gan yr Unigolyn Graddedig Rheoli Prosiectau Bysiau ran allweddol yn y gwaith o gefnogi'r broses o gyflawni rhaglen newid Bysiau sylweddol yng Nghymru, sy'n tynnu ynghyd nifer o brosiectau a gweithgareddau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gynllunio rhwydweithiau bysiau newydd, prynu/adeiladu depos, fflyd a thechnoleg ar y bysiau.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Efallai na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer ein Cynllun i Raddedigion, mae'n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais neu eich bod wedi graddio erbyn y bydd y cynllun yn dechrau. Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun i Raddedigion ddechrau mis Medi 2026.
Sylwch, mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU ar ôl llwyddo i gael eich penodi i’r swydd. Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y Camau Nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i gael gwybod mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.
Diwrnod Asesu
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n eich gwahodd chi i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Cyfle Cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a phobl o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniadau hanfodol o fod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, cofiwch roi gwybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
Gwybodaeth Arall
Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, rydyn ni am asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys deallusrwydd artiffisial, yn anffodus ni fyddwn yn gallu ystyried y cais.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.