A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog y Rhwydwaith Bysiau / Swyddle
Swydd:
Swyddog y Rhwydwaith Bysiau
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£27,500
Cyfeirnod:
REC01417
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
14-10-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd Swyddog y Rhwydwaith Bysiau yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am ddatblygu amserlenni bysiau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a gofynion data eraill yn unol â chynllun Bus Cymru i wella profiad cyffredinol cwsmeriaid a chyflawni polisi Llywodraeth Cymru.

  • Canfod a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau parhaus i newidiadau i wasanaethau bysiau drwy lunio amserlenni bysiau a diagramau bysiau effeithlon, drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol, i ddiwallu anghenion y cyhoedd sy’n teithio. 
  • Rhoi cyngor technegol i dîm bysiau Trafnidiaeth Cymru (TrC), Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth rhanddeiliaid er mwyn gwneud y rhwydwaith yn fwy effeithlon. 
  • Bod yn arbenigwr technegol i randdeiliaid drwy ddarparu dehongliad a chyngor arbenigol o ffynonellau data bysiau o ran llunio amserlenni bysiau a thocynnau teithio rhatach, i sicrhau bod rhanddeiliaid Cymru yn cael gwasanaeth arbenigol cytbwys a chost-effeithiol y gallant ei ddefnyddio yn ôl yr angen. 
  • Cyflawni polisïau bysiau Llywodraeth Cymru drwy alluogi newid patrymau teithio i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion cymdeithasol ac economaidd cymunedau yng Nghymru.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Sgiliau rhifedd amlwg a gallu rhoi sylw i fanylion, a/neu gallu ystyried sut gellir cyflawni allbynnau/llunio amserlenni bysiau i deithwyr a rhanddeiliaid.
  • Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd TG e.e. MS Office
  • Profiad o gasglu a dadansoddi data i arwain penderfyniadau, yn enwedig yng nghyd-destun cynllunio rhwydwaith.
  • Profiad o weithio o fewn amserlenni tynn ac amrywiol

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.


Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**