Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, empathetig ac egnïol sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Archif a Chyfleu Cynnwys, fel Arweinydd yn y maes.
Trosolwg y Swydd
Byddwch yn gyfrifol ac yn chwarae rôl allweddol drwy arwain y tîm Archif a Chyfleu Cynnwys i reoli’r cynnwys sy’n cael ei gyfleu i S4C a holl gynnwys archif S4C.
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o adrannau mewnol, staff a rhanddeiliaid allanol (megis cynllunio, cwmnïau cynhyrchu, gwasanaethau mynediad a’r adrannau perthnasol o fewn BBC Cymru) i feithrin perthnasoedd cryf i baratoi a chydlynu cynnwys, gweithio ar brosiectau, rhannu mewnwelediadau, a chyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â’n nodau strategol. Byddwch yn cyfathrebu yn rheolaidd gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn tracio statws deunydd ar draws platfformau ar gyfer gwasanaethau S4C.
Manylion eraill
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd, Sgwâr Canolog (o leiaf 2 diwrnod yn y swyddfa swyddfa)
Cyflog: £45,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf:3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 14.00, Dydd Gwener, 08 Mai 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 19 Mai 2026, S4C, Swyddfa Caerdydd, Sgwâr Canolog.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.