A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Gweinyddol / Swyddle
Swydd:
Swyddog Gweinyddol
Lleoliad:
Hybrid, Gweithio o Gartref
Cyflog:
£16,200-£18,000
Cyfeirnod:
202511YC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
YesCymru
Dyddiad Cau:
30-11-2025

Lleoliad: Cymru (gweithio o adref gyda theithio o dro i dro ar gyfer digwyddiadau)
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Rhan-amser, 24 awr dros 3 neu 5 diwrnod (hyblyg)
Cyflog: £16,200-£18,000 (£27,000-£30,000 Cyfwerth ag Amser Llawn)
Dyddiad Cau: 30 Tachwedd 2025

Am YesCymru

Mae YesCymru yn fudiad llawr-gwlad amhleidiol, sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Rydym yn gweithio i ymgysylltu â phobl o bob cefndir er mwyn llywio dyfodol democrataidd, llwyddiannus a hyderus i’n gwlad.

Rydym yn chwilio am weinyddwr trefnus ac ymroddedig i gefnogi ein gweithgareddau dydd-i-ddydd. Mae’r rôl hon yn ganolog i sicrhau bod YesCymru'n gweithredu’n effeithlon – gan gefnogi ein system aelodaeth, llywodraethu, a digwyddiadau, tra hefyd yn helpu i gynnal cofnodion dwyieithog cywir a chyfathrebu clir ledled y mudiad.

Am y Swydd

Bydd y Gweinyddwr yn darparu cefnogaeth weinyddol hanfodol i’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB), Cyngor y Dirprwyon (CoD), a grwpiau lleol. Mae’r rôl yn cynnwys rheoli cofnodion, cynorthwyo gyda chyfarfodydd a etholiadau, cefnogi system aelodaeth, ac sicrhau bod YesCymru yn gweithredu’n effeithlon ac yn dryloyw.

Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sy’n mwynhau trefnu, cyfathrebu, a gweithio mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar werthoedd.

Prif Ddyletswyddau

  • Gweithio fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau a grwpiau lleol, gan ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth.
  • Darparu cefnogaeth gweinyddol i gyfarfodydd NGB a CoD, gan gynnwys paratoi agendau, cylchredeg papurau, a chymryd cofnodion.
  • Cefnogi cydlynu etholiadau cyfarwyddwyr a’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol (AGM).
  • Cynnal y gronfa ddata aelodaeth, dyrannu rhifau aelodaeth, a chefnogi integreiddio â’r wefan a phorth aelodau.
  • Cefnogi cadw manylion grwpiau lleol yn gywir a chynorthwyo grwpiau newydd i sefydlu.
  • Llwytho a rheoli dogfennau ar Google Drive, gan sicrhau bod deunyddiau’n cael eu trefnu ac yn hygyrch.

Cymwysterau a Sgiliau Hanfodol

  • Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys profiad gyda chronfeydd data, taenlenni a llwyfannau ar-lein.
  • Cymraeg rhugl, gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Trwydded yrru llawn y DU a mynediad at drafnidiaeth; gallu teithio i ddigwyddiadau a chyfarfodydd ledled Cymru.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf, gyda’r gallu i reoli nifer o dasgau a dyddiadau cau.
  • Sgiliau cyfieithu a phrawf ddarllen da (Cymraeg/Saesneg).
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm bach.

Sgiliau a Phrofiad Dymunol

  • Profiad gweinyddol blaenorol mewn mudiad aelodaeth, gwirfoddol neu ymgyrchu.
  • Profiad o gefnogi neu gydlynu digwyddiadau.
  • Cyfarwyddyd gyda rheoli cynnwys gwefan neu systemau aelodaeth ar-lein.
  • Dealltwriaeth o brosesau llywodraethu mewn sefydliadau dielw neu a arweinir gan aelodau.
  • Ymwybyddiaeth o amcanion a gwerthoedd YesCymru, a brwdfrydedd dros hyrwyddo annibyniaeth Cymru.

Sut i Ymgeisio

Anfonwch eich cais drwy e-bost at post@yes.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd 2025.