A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | 5x Uwch-gyfieithwyr - cyfieithu testun / Swyddle
Swydd:
5x Uwch-gyfieithwyr - cyfieithu testun
Lleoliad:
Hybrid, Cymru
Cyflog:
£37,111 - £45,378
Cyfeirnod:
llywgs2997Cyf 4139
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 5
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llywodraeth Cymru I Welsh Government
Dyddiad Cau:
21-09-2026

Uwch-gyfieithwyr - cyfieithu testun (o leiaf 5 swydd)

Cyflog: HEO: £37,111 - £45,378

Bydd cyflog cychwynnol rhwng £37,111 a £41,834 yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus, yn seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a pherfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon.

Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam.

Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Dyddiad Cau: 21 Medi 2026

Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.

PWRPAS Y SWYDDI

  • Meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu testun, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
  • Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, hyfforddi a goruchwylio cyfieithwyr testun llai profiadol.
  • Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd eraill yn arbenigo mewn cyfieithu deddfwriaeth.
  • Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, cyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminoleg.

CYFLEOEDD DATBLYGU

  • Gweithio mewn gwasanaeth cyfieithu mawr, amlddisgyblaeth, a datblygu ac ehangu ystod dda o sgiliau arbenigol yn y maes cyfieithu.
  • Datblygu’ch gallu i reoli a datblygu staff.
  • Atgyfnerthu’ch sgiliau adolygu gwaith a chyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd y Gwasanaeth.
  • Datblygu ac ehangu’ch gyrfa oddi mewn i’r proffesiwn cyfieithu, a chymryd cyfrifoldebau uwch am wasanaethau cyfieithu.
  • Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL. Telir y ffioedd profi ac aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Gellir hefyd ystyried penodi ymgeiswyr i swyddi Cyfeithydd ar radd EO os na lwyddir i fodloni gofynion y radd hon. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n cael cynnig swydd Cyfieithydd yn ymuno â chynllun datblygu strwythuredig i ddatblygu eu sgiliau a’u hymwybyddiaeth o waith y sefydliad, gan arwain at gyfleoedd i wneud cais am ddyrchafiad i swydd Uwch-gyfieithydd.

RHAGOR O WYBODAETH

Defnyddiwch y botwm "Ceisio Nawr" i fynd i wefan y Llywodraeth er mwyn gweld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chael rhagor o wybodaeth am ofynion y swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses ymgeisio a'r amserlen.