Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Byddwch yn rhan o dîm sy'n llunio dyfodol cyfryngau Cymraeg ac yn cyflwyno profiadau digidol sy'n cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Fel Cydlynydd Gwe, byddwch yn cael y cyfle i gael effaith wirioneddol - o adeiladu cynnwys ar-lein deniadol i helpu i lunio sut mae ein cynulleidfaoedd yn rhyngweithio â llwyfannau S4C. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â dylunwyr a datblygwyr creadigol, gan ennill profiad ymarferol. Byddwn yn cefnogi eich twf gyda chyfleoedd hyfforddi a datblygu, tra'n rhoi'r hyblygrwydd i chi ffynnu mewn gweithle cydweithredol, modern. Os ydych chi'n angerddol am y cyfryngau digidol, yn cael eich cyffroi gan brofiad defnyddwyr, ac yn falch o ddiwylliant Cymru, dyma eich cyfle i ymuno â sefydliad unigryw lle mae eich gwaith o bwys.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n angerddol am gyfryngau digidol, cynnwys, sydd am gyfrannu at hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru mewn amgylchedd cyfryngau sy'n symud yn gyflym.
Manylion Pellach
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa)
Cyflog: £28,200 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer y bydd y gwyliau blynyddol ar sail pro rata os yn gweithio rhan amser).
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Bydd disgwyl i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Iau 2 Hydref i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Ni fydd CV yn cael eu derbyn.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.