Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru R25072410
Math o swydd wag: Dros Dro/Llawn Amser
Categori: Addysg
(Addysg)
Ystod cyflog: Gradd D, £28,895.78 - £35,598.34
Oriau: 35 oriau
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Cymraeg yn hanfodol - hyfedredd
Crynodeb o'r Swydd
Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru
Ydych chi’n gyfieithydd profiadol ac eisiau gwneud gwaith cyffrous ac amrywiol i gorff cenedlaethol? Dewch i fod yn rhan o dîm cyfieithu Amgueddfa Cymru a chyfrannu at ysgrifennu a rhannu ein straeon â’r byd.
Byddwch yn aelod o’r Tîm Cyfieithu a’r Iaith Gymraeg sy’n gyfrifol am gyfieithu, golygu, prawfddarllen a chyhoeddi cynnwys Cymraeg i wahanol gynulleidfaoedd mewn print ac yn ddigidol. Yr Adran sydd hefyd yn gyfrifol am Bolisi Iaith Gymraeg yr Amgueddfa gan ddatblygu a dathlu ein defnydd o’r Gymraeg i’r safon uchaf, sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Iaith a hybu diwylliant Cymraeg y corff.
Prif gyfrifoldebau:
- Saernïo testun Cymraeg ar amser ac i’r safon uchaf heb oruchwyliaeth, gan gynnwys testun ar gyfer arddangosfeydd, gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, isdeitlau, deunydd corfforaethol ac ati.
- Cyfieithu, prawfddarllen a golygu testun Cymraeg.
- Cyfuno gweithio’n annibynnol ar gyfieithiadau a thestun, a bod yn aelod o dîm ymroddedig a gweithgar.
- Cyfrannu at gynnal a datblygu geirfa arbenigol.
Lleoliad: Gweithio hybrid / un o safleoedd Amgueddfa Cymru (gyda’r gallu i deithio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o bryd i’w gilydd).
Dyddiad Cau: 10 Medi am 5yp.
Dyddiad Cyfweld: Yr wythnos yn cychwyn 22 Medi 2025.
|