A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch-gyfieithydd / Swyddle
Swydd:
Uwch-gyfieithydd
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£42,662 - £46,662
Cyfeirnod:
GSNRW261001a202916
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 5
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( Nes 12/11/2027, Llawn Amser (37awr) )
Cleient:
Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales
Dyddiad Cau:
11-10-2026

Uwch-gyfieithydd

Rhif Swydd: 202916

Lleoliad: Hyblyg

Gradd / Amrediad cyflog: 06: £42,662 - £46,662

Patrwm Gwaith: Llawn amser - 37 awr y wythnos

Working hours: 37

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol (FTA)

Dyddiad diwedd y contract: 12/11/2027

Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: C2 - Lefel hyfedredd uwch

Dyddiad cau: 11/10/2026

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am y Gymraeg? Oes gennych chi sgiliau iaith creadigol rhagorol ac ydych chi’n mwynhau helpu eraill gyda'u hanghenion o ran y Gymraeg?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am Uwch-gyfieithydd profiadol a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Cyfieithu prysur.

Gan adrodd i Arweinydd y Tîm Cyfieithu, byddwch yn ymuno â thîm bach o gyfieithwyr proffesiynol ac yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith cyfathrebu CNC â chwsmeriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd ehangach - a hynny gyda Chymraeg clir, cywir a darllenadwy.

Fel Uwch Gyfieithydd, byddwch yn helpu i sicrhau cynnwys Cymraeg o safon uchel - yn gyson, yn greadigol, ac o fewn terfynau amser tynn. Byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddarparu cyngor a chymorth ieithyddol arbenigol, gan helpu i ddiogelu a gwella enw da CNC a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dyma gyfle cyffrous i gyfieithydd medrus sy'n angerddol am safon iaith, datblygu terminoleg a darparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 23/10/2026 ar Microsoft Teams.

 

Mae’r swydd hon swydd dros dro hyd at 12 Tachwedd 2027.

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gorff amgylcheddol Cymru. Rydym yn gweithio i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru, gan helpu pobl, cymunedau a busnesau i gael budd o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy - nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r rôl hon yn y Tîm Cyfieithu, sy’n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach. Mae'r gyfarwyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol o ran sut mae CNC yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â chwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, cryfhau perthnasoedd a darparu gwasanaethau rhagorol. Mae'r gyfarwyddiaeth yn ganolog i gyflawni uchelgeisiau corfforaethol CNC, gan gynnwys ein hymrwymiadau i dryloywder, canolbwyntio ar gwsmeriaid, a thrawsnewid digidol.

Fel rhan o'r Tîm Cyfieithu, byddwch yn cyfrannu at sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd ein cyfathrebu. Drwy ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyngor ieithyddol o safon uchel, mae'r tîm yn cefnogi cydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfathrebu'n glir, yn gyson ac yn effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan ein helpu i ddiwallu anghenion y bobl a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu ledled Cymru.

Mae ymuno â CNC yn golygu dod yn rhan o sefydliad sy'n gwerthfawrogi arbenigedd, cydweithio ac arloesedd, gan wneud cyfraniad ystyrlon at ddyfodol amgylchedd Cymru a'r iaith Gymraeg.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Helpu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a phrawfddarllen Cymraeg o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Cyfieithu a phrawfddarllen ystod eang o ddogfennau i safon uchel iawn i fodloni gofynion ein polisi iaith Gymraeg a'n harddull ysgrifennu mewnol.
  • Arwain ar sicrwydd ansawdd digonol ar gyfer gwasanaeth allanol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fonitro cysondeb a glynu wrth arddull y tîm.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth a rheoli disgwyliadau'n effeithiol.
  • Cyfrannu at gynllunio llif gwaith i sicrhau gwasanaeth llyfn a chyson.
  • Rhoi sylw manwl i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol.
  • Cynnal system gadw cofnodion effeithlon er mwyn olrhain galw a chostau.
  • Meithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol i gefnogi darparu gwasanaethau dwyieithog gwell.
  • Rhoi cyngor arbenigol i aelodau eraill o staff, gan ddefnyddio barn gadarn a'ch sgiliau proffesiynol, yn enwedig o ran terminoleg a chysondeb.
  • Mentora a chefnogi aelodau eraill o'r tîm a chwilio'n rhagweithiol am ffyrdd o wella’n ehangach.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun a'ch tîm drwy ddefnydd effeithiol o'ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

 

  1. Profiad helaeth o weithio fel cyfieithydd.
  2. Gwybodaeth weithredol o Microsoft Office a meddalwedd cof cyfieithu.
  3. Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
  4. Aelodaeth lawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, neu barodrwydd i weithio tuag at aelodaeth lawn.
  5. Ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
  6. Sgiliau rhyngbersonol da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  7. Ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
  8. Dealltwriaeth a gwybodaeth am gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC.
  9. Y gallu i wneud penderfyniadau da, yn arbennig o ran terminoleg a’r defnydd o'r Gymraeg.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: C2 - Lefel hyfedredd uwch

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni'r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.