Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle i weithio yng nghalon Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau Cymraeg hanfodol yn is-adran y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle unigryw i weithio’n agos gyda Gweinidogion ac uwch arweinwyr, gan fod yng nghanol sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ddydd i ddydd.
Os ydych chi – neu rywun rydych chi’n ei adnabod – yn chwilio am her newydd ac eisiau gwneud gwir wahaniaeth yng nghanol y llywodraeth, gallai hyn fod yn gyfle perffaith.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.
Dyddiad cau: 12 Tachwedd 2025
Wrth inni edrych ymlaen at ddiwygio'r Senedd, mae'n amser cyffrous i weithio wrth galon Llywodraeth Cymru.
Mae gweithio mewn Swyddfa Breifat yn cynnig cyfle unigryw i weithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion mewn amgylchedd cyflym, proffil uchel, sy’n rhoi cipolwg gwerthfawr ar y ffordd mae llywodraeth yn gweithredu a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Pwrpas y Swydd
Darparu cymorth effeithiol o ddydd i ddydd i Ysgrifennydd Cabinet neu Weinidog, gan helpu i reoli eu portffolio a'u blaenoriaethau. Mae gan Ysgrifenyddion Preifat rôl allweddol o ran cydgysylltu busnes y Gweinidogion, mynegi safbwyntiau'r Gweinidogion, a sicrhau bod pethau’n gweithio’n llyfn.
Yn dibynnu ar y swydd, mae’n bosibl y byddwch yn arwain tîm bach neu’n gweithio o dan Uwch-Ysgrifennydd Preifat. Mae'r swyddi hyn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu cryf, crebwyll gwleidyddol cadarn a'r gallu i ddylanwadu, negodi, a rheoli gofynion sy’n cystadlu. Maent yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n ffynnu o dan bwysau, sy’n mwynhau cydweithio ag eraill, ac sy’n awyddus i gael effaith ystyrlon yng nghanol y gwasanaethau cyhoeddus
I gael rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio yn Llywodraeth Cymru ac i ddysgu am ein Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, dilynwch y ddolen hon: Gyrfaoedd yn y swyddfa breifat ac yn ysgrifenyddiaeth y cabinet | LLYW.CYMRU