Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Manyleb Swydd:
Pennaeth Polisi
|
Teitl Swydd: |
Pennaeth Polisi |
|
Lleoliad: |
Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm gweithio hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa. |
|
Math o Gytundeb |
Parhaol Cynigir y cytundeb ar sail barhaol, yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus. Hyblyg – Byddai Plaid Cymru yn croesawu ymgeiswyr a ddymunai ymgymryd â'r rôl hon yn llawn amser neu'n rhan amser. |
|
Cyflog |
Band Uwch Ymgynghorydd (£42,904 – £55,159) Fel arfer daw penodiadau ar ochr isaf y raddfa |
|
Oriau Gwaith |
37 awr yr wythnos, gyda'r angen i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system oriau gwaith hyblyg. Mae'r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn pro rata gyda diwrnodau breintiedig ychwanegol. |
Pwrpas y swydd:
Yn dilyn canlyniad llwyddiannus y blaid yn etholiadau mis Mai, mae Plaid Cymru yn recriwtio uwch-aelod o staff i’w pencadlys er mwyn arwain ar waith datblygu polisi’r blaid. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth fanwl o fyd gwleidyddol a llunio polisi yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn cydlynu gweithgarwch datblygu polisi'r blaid, gan gydweithio'n agos gydag aelodau etholedig, y Cyfarwyddwr Polisi, uwch staff, y Fforwm Polisi a staff ar draws grwpiau etholedig er mwyn sicrhau bod polisïau'r blaid yn cael eu hymchwilio'n dda, gydag ymgynghoriaeth ag aelodau a rhanddeiliaid, ac wedi eu cyfathrebu'n effeithiol.
Prif gyfrifoldebau:
Cymryd cyfrifoldeb staff arweiniol ar ddatblygu maniffestos y blaid, gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Polisi ac unigolion allweddol eraill.
Cynnal goruchwyliaeth strategol o weithgarwch datblygu polisi'r blaid, gan gynnwys y Gynhadledd Flynyddol, gan weithio gyda'r Pwyllgor Llywio.
Sicrhau cydlyniant polisi da gyda'r blaid yn y llywodraeth, a rhwng grwpiau etholedig y Blaid, gan gynnwys Grŵp y Senedd, Grŵp San Steffan, Grwpiau'r Cyngor a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Cymryd cyfrifoldeb arweiniol am weithredu canfyddiadau ymarferion ymgynghori a phrofi polisi (e.e. arolygon barn a grwpiau ffocws), gan gyfathrebu â'r blaid yn y llywodraeth lle bo angen.
Cysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol er mwyn cynorthwyo llywio datblygiad polisi a chyfleu platfform polisi'r Blaid.
Cymryd cyfrifoldeb arweiniol am fodloni gofynion y Comisiwn Etholiadol o ran y Grant Datblygu Polisi, gan weithio'n agos gyda’r Pennaeth Cyllid a Chydymffurfiaeth i gyflwyno dogfennaeth ar gyfer adrodd ac archwilio'r grant.
Rheoli'r gyllideb polisi a chynllunio a gweithredu amserlen polisi, gan gynnwys goruchwylio comisiynu ymchwil a phapurau polisi i gynllunio a dyrannu adnoddau'n effeithiol.
Rheoli staff polisi a digwyddiadau a gyflogir yn ganolog gan y blaid, a chynnal perthnasoedd gwaith agos â staff polisi ac ymchwil ar draws grwpiau etholedig.
Datblygu gweithgareddau hyfforddi polisi a chefnogaeth i ymgeiswyr a grwpiau allweddol eraill.
Sgiliau Allweddol a Phrofiad
Angenrheidiol:
Dealltwriaeth ardderchog o blatfform polisi Plaid Cymru
Y gallu i gyfathrebu'n rhugl ac yn effeithiol yn Saesneg a Chymraeg
Y gallu i weithio i derfynau amser, bod yn drefnus a rheoli amser ac adnoddau'n effeithiol
Y gallu i weithio ar nifer o brosiectau gwahanol ar yr un pryd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni erbyn dyddiadau allweddol
Dealltwriaeth ardderchog a diddordeb gweithredol ar wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru a thu hwnt
Sgiliau ymchwil a dadansoddiiadol cryf
Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthnasoedd gwaith da ar draws meysydd o gyfrifoldeb
Y gallu i reoli adnoddau a chyllidebau
Dymunol:
Profiad o reoli llinell
Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
Profiad o weithio o fewn sefydliadau gwleidyddol a/neu sefydliadau dan arweiniad aelodau
__________________________
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 Hanner Dydd, Mercher 15 Gorffennaf 2026
Dyddiad llunio rhestr fer: Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2026
Anfonwch eich ffurflenni cais wedi’u cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru