A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog / Cynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata / Swyddle
Swydd:
Swyddog / Cynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata
Lleoliad:
Aberystwyth, Hybrid
Cyflog:
£27,319-£38,784 (Gradd 5/6 - unol â phrofiad)
Cyfeirnod:
GSA2209261A
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 4
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 Mis, Llawn Amser (36.5awr) )
Cleient:
Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Dyddiad Cau:
18-10-2026

Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata / Cynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata

(Yr Adran Marchnata a Denu Myfyrwyr Byd Eang)
36.5 awr yr wythnos 
Cyfnod Penodol 12 Mis
Gradd 5 (£27,319.19 - £30,378.43) neu Gradd 6 (£33,001.64 - £38,784.49)yn ddibynnol ar brofiad.

Y swydd

Arweinir y Tîm Ymgyrchoedd Marchnata gan y Pennaeth Marchnata a Denu Myfyrywr. Bydd y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata / Cynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata ac yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata sy'n cyflawni strategaeth farchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws y cyfryngau digidol a thraddodiadol.

Cynigir rôl y Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata (Gradd 6) neu Gynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata (Gradd 5) i’r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei brofiad presennol.

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sydd yn dymuno gweithio mewn ffordd hyblyg, gyda rhywfaint o amser yn gweithio o adref a rhywfaint o amser yn gweithio o’r swyddfa. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu Digwyddiadau Prifysgol Aberystwyth ar y campws (Diwrnodau Agored, Digwyddiadau Ymgeiswyr, Teithiau Campws, Canolfan Alwadau Clirio) ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn.
  

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.


Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.
 
•    Gweithio gyda'r Pennaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr a'r Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd allweddol i ddenu myfyrwyr ar draws pob marchnad.
•    Arwain ar y gwaith o gyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau, gan gynnwys bod yn rhan o'r cynllunio, creu asedau, llunio negeseuon.
•    Olrhain, monitro a dadansoddi hynt ac effeithiolrwydd ymgyrchoedd – llunio adroddiadau (gan gynnwys gwybodaeth gyllidebol ac olrhain dangosyddion perfformiad allweddol) gan gyflwyno argymhellion.
•    Cyfrannu syniadau arloesol a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd, negeseuon a deunyddiau marchnata sy'n tynnu sylw darpar fyfyrwyr.
•    Gweithio gan ddefnyddio cyfryngau marchnata digidol a thraddodiadol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, y wefan, System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM), cyhoeddiadau ar-lein a phrintiedig.
•    Datblygu a rheoli cysylltiadau gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys partneriaid allanol megis asiantaethau archebu creadigol a’r cyfryngau, UCAS, IDP a phartneriaid addysgol eraill, a chydweithwyr mewnol ar draws adrannau.
•    Ymgymryd ag ymchwil i'r farchnad i gadw llygad ar ddiddordebau darpar fyfyrwyr, tueddiadau'r farchnad, perfformiad cystadleuwyr ac ati. Defnyddio'r ymchwil hon wrth gynllunio ymgyrchoedd a chreu syniadau marchnata.
•    Sicrhau bod brand y Brifysgol yn gyson ar draws yr holl ddeunyddiau marchnata.
•    O bryd i’w gilydd, cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol a mewnol gan gynnwys diwrnodau agored, arddangosfeydd UCAS, Eisteddfod Genedlaethol ac ati. Gallai hyn gynnwys teithio cenedlaethol a rhyngwladol, ac aros dros nos.
•    Bod yn aelod brwdfrydig ac ymroddedig o'r tîm, yn barod i gefnogi cydweithwyr ar draws yr adran yn ystod cyfnodau brig, gan gynnwys ymgymryd â gwaith gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.
•    Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
•    Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
•    Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
•    Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.


Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
 

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:

Hanfodol – Swyddog Ymgyrchoedd Marchnata (Gradd 6)

1.    Addysg i lefel gradd neu brofiad cyfwerth.

2.    Gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn rôl marchnata/cyfathrebu ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol.

3.    Dealltwriaeth o systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a sut i’w defnyddio wrth arwain y gwaith o feithrin a throsi.

4.    Profiad o reoli nifer o ymgyrchoedd marchnata neu brosiectau yn llwyddiannus ar yr un pryd.

5.    Profiad o gynnal a defnyddio ymchwil marchnad i lywio’r cynllun ar gyfer ymgyrchu neu farchnata.

6.    Profiad o olrhain, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y cyfryngau marchnata, gan gynnwys gwneud argymhellion ar welliannau yn y dyfodol.

7.    Dealltwriaeth o bwysigrwydd hunaniaeth, cysondeb a rheoli brand.

8.    Parodrwydd a’r gallu i weithio'n hyblyg: efallai y bydd angen i chi deithio'n genedlaethol, gan weithio oddi cartref. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.

9.    Dawn gyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn Gymraeg a Saesneg. Dylai’r
gallu yn y Gymraeg fod ar lefel C1.


Manteisiol

1.    Cymhwyster Proffesiynol sy'n gysylltiedig â Marchnata neu Gyfathrebu.

2.    Profiad o weithio yn y sector Addysg Uwch.

3.    Profiad o weithio gyda system Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM).

4.    Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C2.*


Hanfodol – Cynorthwyydd Ymgyrchoedd Marchnata (Gradd 5)


1.    Addysg i lefel gradd neu brofiad perthnasol.
 
2.    Profiad o swydd yn gweithio mewn rôl swyddfa, gyda chyfrifoldeb dros gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid.

3.    Dealltwriaeth o swyddogaeth marchnata, gan gynnwys pwysigrwydd ymchwil i'r farchnad.

4.    Profiad o ddefnyddio sianeli marchnata traddodiadol a digidol.

5.    Profiad o ddadansoddi data, llunio a chyflwyno adroddiadau.

6.    Dealltwriaeth o bwysigrwydd rheoli brand.

7.    Sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

8.    Bod yn barod ac yn gallu gweithio'n hyblyg; bydd angen gweithio ar benwythnosau a chyda'r hwyr.

9.    Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C1.*


Dymunol

1.    Cyfarwydd â'r sector Addysg Uwch.

2.    Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig C2.*


Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Rhaid defnyddio jobs.aber.ac.uk i gyflwyno cais am y swydd hon (Cliciwch "CEISIO NAWR" i gael eich ailgyfeirio). Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.


Buddion

•    Polisi gweithio’n hyblyg
•    Gweithio hybrid
•    36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
•    Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau 
•    Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
•    Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
•    Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
•    Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
•    Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
•    Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
•    Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.


Mwy o wybodaeth

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio o bell ar gyfer rolau addas i wella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swyddi fel arfer yn manylu ar leoliad gwaith cynradd ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith hyblyg, o bell, neu gartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymgeiswyr ag anableddau, a menywod.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni, ac rydym yn annog a chynorthwyo ein staff i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydym yn cydnabod y gall ymgeiswyr ddefnyddio offer DA i gefnogi eu cais. Rydym yn disgwyl, fodd bynnag, bod ceisiadau yn cael eu hysgrifennu gan yr ymgeisydd ac yn adlewyrchu eu profiad, eu sgiliau a'u safbwyntiau eu hunain yn gywir. Mae dilysrwydd a gonestrwydd yn hanfodol i'n proses recriwtio.


Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).