Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Cegin a Llety
Math o gytundeb: Swydd barhaol a thymor ysgol yn unig ar gael
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos) neu ran amser
Graddfa: Gweithredol 1: £24,488 y flwyddyn (pro-rata)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Dyddiad ac amser cau: 31/07/2026, 17:00
Y Swydd
Ymunwch â’n tîm fel Cynorthwyydd Cegin yng Ngwersyll Yr Urdd, Glan-llyn, gan helpu i baratoi a gweini prydau i westeion a staff. Byddwch yn cefnogi tasgau dydd i ddydd y gegin ac yn sicrhau safonau uchel o lanweithdra a hylendid. Mae’r rôl hon yn addas i rywun dibynadwy, trefnus, ac yn gyfforddus yn gweithio mewn amgylchedd tîm prysur. Rôl ymarferol mewn lleoliad unigryw gyda chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds (Rheolwr Gwersyll) ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org