Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Y swydd
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig.
Mae’r Partner Busnes Adnoddau Dynol (AD) yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â'r meysydd busnes a benodwyd iddynt i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol a gwasanaeth datblygu sefydliadol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn gyrru gwell perfformiad. Bydd deiliad y swydd yn cael ei glustnodi i ddarparu gwasanaeth i adrannau neu ardaloedd gwaith penodedig yn y Brifysgol.
Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu strategaethau a chyflwyno mentrau busnes a rhaglenni i’r gweithlu, sy'n cefnogi cynlluniau ac amcanion yr adran. Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol i reolwyr ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan weithio ar y cyd â chydweithwyr AD i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu bodloni. Bydd y Partner Busnes AD yn cyfrannu at brosiectau AD ar draws y Brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau eu rheolwr llinell.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Deb Rhead ar der31@aber.ac.uk .
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.