A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yn ymwneud a Thai / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yn ymwneud a Thai
Lleoliad:
Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Y Drenewydd
Cyflog:
£73,660
Cyfeirnod:
Barcud-HHRS
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Parhaol ( parhaol )
Cleient:
Barcud
Dyddiad Cau:
19-10-2026

Diben cyffredinol y swydd: 

 

Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth yn ymwneud â Thai yn cydweithio’n agos â’r Pennaeth Tai a Chymunedau, y Tîm Arwain ac aelodau’r Fforwm Penaethiaid Gwasanaeth. Bydd yn arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau llety, digartrefedd a chymorth lle bo angen, sy’n wasanaethau o safon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ar draws ardal Barcud gan helpu i greu cymunedau cryf a gweithgar. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau o safon a chartrefi â chymorth o safon ar gael yn barhaus, gan sicrhau ffocws cryf ar ddatblygu a chynnal pobl hapus sy’n teimlo’n ddiogel. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau gwasanaeth cymorth cyson o safon, a bydd yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cymunedau i sicrhau parhad o ran arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol.

 

Cyfrifoldebau Allweddol –  

Arwain:

  • Bod yn gyfrifol am reoli’n gyffredinol y gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai a’u swyddogaethau cysylltiedig, gan sicrhau bod y rheini’n cael eu darparu i’r safon uchaf.
  • Darparu arweinyddiaeth sy’n grymuso pobl, drwy reoli a datblygu’n effeithiol y sawl sy’n atebol yn uniongyrchol iddynt, gan eu cynorthwyo i gyflawni amcanion a gytunwyd a hyfforddi cydweithwyr fel y bo’n briodol i gyflawni canlyniadau gofynnol.
  • Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd. 
  • Arwain a rheoli er mwyn meithrin llesiant, gwydnwch, ymarfer myfyriol a diwylliant o ddysgu ymhlith cydweithwyr.
  • Sicrhau mynediad i gyfleoedd priodol i gael hyfforddiant a datblygu, sy’n galluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaethau ardderchog.
  • Cydweithio â gwasanaethau ehangach ar draws Barcud i rannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y sefydliad, gan gynorthwyo i sicrhau bod amcanion strategol, safonau gwasanaeth a thargedau’n cael eu cyflawni’n effeithiol.
  • Bod yn ddolen gyfathrebu uniongyrchol rhwng y Fforwm Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwr Asiantaeth Gofal a Thrwsio ym Mhowys.
  • Datblygu, monitro a rheoli cyllidebau, gan sicrhau safonau uchel o ran rheolaeth ar gostau, llywodraethiant ariannol a rheoli risg.

Gwasanaethau cymorth:

  • Datblygu a gweithredu strategaethau gwasanaeth sy’n hybu annibyniaeth, llesiant, a chanlyniadau cadarnhaol ar gyfer grwpiau amrywiol o gleientiaid.
  • Arwain mentrau gwelliant parhaus er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau, effeithlonrwydd, a phrofiad tenantiaid.
  • Defnyddio data a dealltwriaeth o berfformiad i lywio’r modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio ac y caiff adnoddau eu dyrannu ac i lywio modelau cyflawni yn y dyfodol.
  • Goruchwylio’r modd y caiff gwasanaethau cymorth eu darparu o ddydd i ddydd ar draws cynlluniau byw’n annibynnol, gwasanaethau cymorth lle bo angen, rhaglenni cynnal tenantiaethau a rhaglenni arbenigol.
  • Sicrhau bod fframweithiau effeithiol ar waith ar gyfer rheoli achosion, er mwyn hybu ymarfer cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Rheoli cyllidebau a pherfformiad ariannol, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gweithredu yn unol ag adnoddau a gytunwyd a’u bod hefyd yn darparu gwerth am arian.
  • Arwain gwaith rheoli contractau ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd, gan sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyllido a dangosyddion perfformiad allweddol.
  • Ymwneud â strategaeth y busnes ar gyfer amrywio ffynonellau incwm ac ar gyfer twf, gan adnabod cyfleoedd i gael cyllid ychwanegol a chynhyrchu incwm ac i wneud yn fawr o’r cyfleoedd hynny.
  • Sicrhau ein bod yn darparu mynediad hwylus ar gyfer tenantiaid, ein bod yn rhoi dewis o ffyrdd iddynt ymgysylltu â ni, a’n bod yn cyfathrebu’n rhagweithiol yn ystod eu holl drafodion â ni.
  • Sicrhau mai nod ein dull o ymdrin ag adborth tenantiaid yw deall anghenion amrywiol tenantiaid a datrys problemau y tro cyntaf bob amser.
  • Sicrhau bod ein tenantiaid yn cael cymorth i gael cymaint o incwm ag sy’n bosibl, drwy arweiniad ac ymyrraeth uniongyrchol gan Dîm Cynnal mewnol Barcud a thrwy eu cyfeirio at wasanaethau cymorth allanol eraill fel y bo’n berthnasol.
  • Sicrhau bod polisïau ac arferion Gwasanaethau Cymorth yn ymwneud â Thai Grŵp Barcud yn cydymffurfio â gofynion statudol/rheoleiddiol, ymrwymiadau dan gontract ac arfer gorau arall, a bod gofynion archwilio mewnol ac allanol yn cael eu bodloni.
  • Hyrwyddo gwaith ardderchog o safbwynt cynnwys gwasanaethau a thenantiaid, gan sicrhau bod y tîm yn dangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar denantiaid a chymunedau a bod tenantiaid a chymunedau’n cael eu cynnwys yn y gwaith o lunio gwasanaethau a threfniadau darparu.
  • Datblygu dulliau effeithiol o weithio mewn partneriaeth â chymunedau a rhanddeiliaid eraill i hybu gweithgareddau adfywio a datblygu cymunedol er mwyn sicrhau bod Grŵp Barcud yn gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i adfywiad cymdeithasol, economaidd a ffisegol ardal Barcud.
  • Bod yn gyfrifol am gyfrannu brwdfrydedd ac arloesedd i’r modd y caiff gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai Grŵp Barcud eu rheoli.
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd busnes/perfformiad gan ganolbwyntio’n benodol ar ofynion awdurdodau lleol, achrediadau, dangosyddion perfformiad allweddol, ac amcanion a chynlluniau’r busnes.
  • Goruchwylio fframweithiau a phrosesau sicrhau ansawdd, megis archwiliadau, adolygiadau gwasanaeth, a systemau adborth.
  • Sicrhau bod fframweithiau rheoli risg wedi’u hymgorffori ar draws pob gwasanaeth cymorth yn ymwneud â thai.
  • Meithrin partneriaethau cryf ag awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, mudiadau’r sector gwirfoddol, a grwpiau cymunedol.
  • Cynrychioli’r sefydliad mewn fforymau strategol er mwyn dylanwadu ar bolisi, sicrhau cyllid, a hybu cydweithio.
  • Datblygu llwybrau atgyfeirio a phrotocolau gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau cymorth di-dor ar gyfer tenantiaid ag anghenion cymhleth.