A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dylunydd Graffeg / Swyddle
Swydd:
Dylunydd Graffeg
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
202509T1
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
03-10-2025

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r EVS a XPression.

Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.


 
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 

Dyddiad Cau: 3 Hydref 2025
 

Manylion pellach

Oriau Gwaith:    Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Gwyliau:    Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn:    Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau:    Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 3 Hydref 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.