Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Datblygwr Pen Blaen
Caerdydd a Llandudno (gyda gweithio hybrid)
Amdanom ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.
Rydym nawr yn chwilio am Ddatblygwr Pen Blaen i ymuno â ni ar gontract tymor penodol tan 31 Hydref 2026, gyda'r posibilrwydd o estyniad. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.
Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.
Y Manteision
- Cyflog o £36,948 - £39,066
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid o gartref ac o'n swyddfa yn ôl yr angen
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Datblygwr Pen Blaen, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a gwella ein hystâd we.
Yn benodol, byddwch yn creu cynhyrchion ac offer digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy'n cefnogi rhaglenni cenedlaethol, ac yn dylunio, adeiladu ac ailadrodd gwefannau a gwasanaethau gan ddefnyddio dull sy'n cael ei arwain gan y defnyddiwr ac sy'n seiliedig ar ddata.
Gan weithio ar y cyd â'r timau Cyfathrebu, Marchnata a Digidol, byddwch yn datblygu cod o ansawdd uchel, yn integreiddio asedau digidol, ac yn sicrhau bod cynhyrchion yn ymatebol, yn perfformio ac yn cyd-fynd â hunaniaeth a safonau'r sefydliad.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Profi, adolygu a datrys problemau ar draws pob cynnyrch digidol
- Datblygu integreiddiadau â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfaoedd craidd
- Darparu arweiniad arbenigol i gydweithwyr
Amdanoch Chi
Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Ddatblygwr Pen Blaen, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad fel Datblygwr Pen Blaen
- Profiad o ysgrifennu cod glân, wedi'i strwythuro'n dda mewn HTML, JavaScript a CSS
- Profiad o ddatblygu o fewn CMS fel Craft, Joomla, WordPress, ac ati.
- Profiad o brofi gwefannau a chynhyrchion digidol am hygyrchedd a swyddogaeth, ac adnabod a thrwsio bygiau
- Dealltwriaeth eang o ieithoedd rhaglennu datblygu gwe
- Gradd neu brofiad perthnasol mewn amlgyfrwng, cyfrifiadureg, datblygu gwe, ac ati.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 2il Rhagfyr 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Ddatblygwr Gwe, Rhaglennydd Pen Blaen, Datblygwr UI, Datblygwr Cymwysiadau Gwe, Datblygwr Cymwysiadau, neu Ddatblygwr Apiau.
Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os hoffech chi ymuno â ni fel Datblygwr Pen Blaen, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.