A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data
Lleoliad:
Caerdydd, Cymru
Cyflog:
Band 3 (£26,345-£33,873)
Cyfeirnod:
CampaignsDataOfficer-SwyddogYmgyrchoeddData
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol (37 awr yr wythnos) )
Cleient:
Plaid Cymru
Dyddiad Cau:
02-10-2026

Manyleb Swydd: 

Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd a Data  

 

 

Teitl y Swydd: 

Swyddog Ymgyrchoedd a Data 

Lleoliad: 

Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd 

Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa. 

Math o Gontract 

Parhaol 

Cynigir y contract ar sail barhaol, ac y mae’n amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus. 

Hyblyg – Byddai Plaid Cymru yn croesawu ymgeiswyr sydd am ymgymryd â’r rôl hon yn llawn-amser neu’n rhan-amser. 

Cyflog 

Band 3 (£26,345– £33,873)  

Gwneir penodiadau fel arfer ar  ben isaf y gyfradd 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar adegau.  Mae Plaid Cymru yn gweithredu system o oriau gwaith hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn pro rata gyda dyddiau braint ychwanegol. 

 

 

Pwrpas y rôl: 

 

Mae Uned Ymgyrchu Cenedlaethol Plaid Cymru yn chwilio am unigolyn ymroddedig a dawnus i ymuno a’u tîm llwyddiannus, i gefnogi etholiadau ac ymgyrchoedd y blaid wrth iddi edrych ymlaen at yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027 a thu hwnt. 

Bydd gan ddeiliad y swydd ddiddordeb mewn ymgyrchu gwleidyddol a gwybodaeth o sut i ddefnyddio rhaglenni data fel Excel, a bod yn barod i ddysgu am systemau cefnogi ymgyrchoedd y blaid, a’u datblygu. Bydd yn cynorthwyo i gyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth i wirfoddolwyr mewn defnyddio meddalwedd etholiad y blaid, ac yn cefnogi etholaethau ac ymgeiswyr i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol. 

 

Prif gyfrifoldebau: 

 

  1. Cynnal, datblygu a hyrwyddo cronfa ddata genedlaethol y blaid o etholwyr 

  1. Cefnogi defnyddwyr lleol y gronfa ddata genedlaethol, gan sicrhau eu bod yn cadw at bolisïau diogelu data 

  1. Paratoi a chyflwyno cynllun hyfforddi i sicrhau datblygu sgiliau aelodau’r blaid wrth ddefnyddio e-ganfasiwr 

  1. Helpu i holi’r data sydd ar gael yn y system i’w ddefnyddio ar draws y blaid; o ran ymgyrchoedd, aelodaeth a dibenion eraill. 

  1. Cymryd rhan yn rhaglen waith ehangach yr Uned Ymgyrchoedd Genedlaethol, i gefnogi  cyflwyno ymgyrchoedd etholiad effeithiol gan y blaid yn gyfan 

  1. Paratoi allbynnau o’r gronfa ddata o etholwyr i’w defnyddio mewn ymgyrchu ac etholiadau  

  1. Paratoi adroddiadau gan ddefnyddio meddalwedd y gronfa ddata o etholwyr  

 

 

Sgiliau Allweddol a Phrofiad 

Hanfodol:  

  • Ymrwymiad i werthoedd Plaid Cymru 

  • Gwybodaeth waith gadarn o systemau cronfeydd data ac Excel, a gallu i ddysgu ac ymaddasu i systemau newydd 

  • Dealltwriaeth o etholiadau ac ymgyrchu   

  • Gallu i gyfathrebu a chefnogi pobl i ddefnyddio meddalwedd 

  • Ymwybyddiaeth o reoli data yn briodol ac yn gyfrinachol 

  • Y gallu i weithio i derfynu amser, bod yn drefnus a rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol 

  • Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb  

 

Dymunol: 

 

  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg 

  • Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr 

  • Profiad o weithio mewn sefydliadau gwleidyddola/neu rai a arweinir gan yr aelodau 

 

__________________________ 

 

Dyddiad cau am geisiadau: 10am – Gwener 2ail o Hydref. 

Cynhelir cyfweliadau i ymgeiswyr ar ddydd Llun yr 12fed o Hydref. 

 

Anfonwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru