A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynhyrchydd yr Ystafell Foiler / Swyddle
Swydd:
Cynhyrchydd yr Ystafell Foiler
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£40,000.00 blynyddol
Cyfeirnod:
R000058
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Welsh National Opera
Dyddiad Cau:
20-05-2026

Swydd ddisgrifiad

 

Ymrwymiad i’r Gymraeg

Mae’r hysbyseb hon a’r disgrifiad swydd llawn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau a chymryd rhan yn y cyfweliadau yn y naill iaith neu’r llall. Gellir dod o hyd i swydd-ddisgrifiadau Cymraeg o dan y cynwysyddion uchod.

 

Adeiladu Cwmni Opera’r Dyfodol

Rydym wedi cyrraedd adeg dyngedfennol yn ein hanes. Ganwyd Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru o’r ysbryd democrataidd a welwyd ar ôl y rhyfel – ysbryd a daniwyd gan angerdd cenedlaethol dros gysylltiad dynol trwy gyfrwng cân. Eleni, a ninnau’n dathlu 80 mlynedd ers ein sefydlu, rydym yn ailddehongli’r cwmni fel sefydliad opera cyfoes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sydd wedi’i wreiddio yng Nghymru, ond sydd hefyd yn uchelgeisiol ar y llwyfan rhyngwladol.

Dymunwn ailddiffinio’r hyn y gall opera fod heddiw, gan sicrhau bod WNO yn rym beiddgar, dewr a llawn gorfoledd yn ecoleg celfyddydau byw y DU. Anelwn at hyrwyddo amrywiaeth ar y llwyfan ac ymhlith ein cynulleidfaoedd, gan brofi mai opera yw ffurf gelfyddydol ddynamig y dydd sydd ohoni.

Yn y bennod nesaf hon, rydym yn chwilio am Gynhyrchydd yr Ystafell Foiler i siapio ac arwain rhaglen yr Ystafell Foiler. Bydd y fenter hon wrth galon a chraidd y cwmni fel injan ymchwil a datblygu bwrpasol, gan greu cyfleoedd ar gyfer cynnal arbrofion artistig, comisiynu, meithrin doniau ac archwilio trawsddisgyblaethol a fydd yn helpu i lywio cyfeiriad WNO ac opera yn y dyfodol. Gan weithio’n agos gyda’r Cynhyrchydd Gweithredol a chyda chydweithwyr ledled y sefydliad, bydd Cynhyrchydd yr Ystafell Fwyler yn curadu ac yn cyflwyno rhaglen a fydd yn meithrin lleisiau newydd yn y byd opera, gan gysylltu gweithgareddau ymchwil a datblygu â repertoire WNO yn y dyfodol. Bydd y rôl yn hyrwyddo artistiaid o Gymru ac a leolir yng Nghymru, yn meithrin cydweithrediad ar draws ffurfiau celfyddydol ac yn adeiladu partneriaethau ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan sicrhau y bydd yr Ystafell Fwyler yn ffynhonnell hollbwysig ar gyfer syniadau, arferion a llwybrau newydd i’r cwmni a’r ecoleg opera ehangach.

Byddwch yn cyfuno gweledigaeth greadigol gydag arbenigedd cynhyrchu da, gan gynorthwyo artistiaid i brofi syniadau, archwilio ffurfiau newydd a datblygu gwaith a chanddo’r potensial i gael ei gyflwyno ar raddfa fwy. Byddwch yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol, gan weithio ar draws adrannau a chyda phartneriaid allanol i sicrhau bod y prosiectau’n uchelgeisiol ac yn gynhwysol, a’u bod yn cyd-fynd ag amcanion strategol WNO. Trwy gyfrwng y rôl hon, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd ac esblygiad opera, gan helpu i lywio dyfodol y ffurf gelfyddydol.

Gyda’r tîm iawn wrth ein hochr, credwn fod hyn yn bosibl.

Yn gywir,
Eich Opera Cenedlaethol Cymru / Your Welsh National Opera

 

Manyleb y Person

Meini Prawf Hanfodol

  • Profiad amlwg o gynhyrchu, curadu neu ddatblygu gwaith newydd yn ymwneud ag opera, theatr gerdd, theatr neu ffurf gelfyddydol debyg.
  • Profiad o brosesau ymchwil a datblygu, yn cynnwys comisiynu, arbrofi neu archwilio creadigol cyfnod cynnar.
  • Gallu diymwad i reoli prosiectau creadigol, o’u cysyniad hyd at eu cyflawni.
  • Profiad o gyllidebu a monitro ac adrodd ariannol mewn cyd-destun celfyddydol neu ddiwylliannol.
  • Profiad o drafod a rheoli cydberthnasau gydag artistiaid, timau creadigol a phartneriaid.
  • Sgiliau cynllunio a threfnu da, ynghyd â’r gallu i reoli amryfal brosiectau ar yr un pryd.
  • Gwybodaeth dda am arferion cyfoes yn ymwneud ag opera a/neu ffurfiau celfyddydol cysylltiedig.
  • Sgiliau cyfathrebu a chydweithio rhagorol.
  • Parodrwydd i weithio fin nos ac ar benwythnosau, yn unol ag amserlenni ymarfer a pherfformio.
  • Parodrwydd i deithio yn y DU ac yn rhyngwladol, fel bo’r angen.
  • Hawl i weithio yn y DU.

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad o weithio’n benodol yn y byd opera neu gyda grymoedd cerddorfaol, corawl neu gerddorol ar raddfa fawr.
  • Profiad o gomisiynu gwaith newydd neu brofiad o weithio’n agos gyda chyfansoddwyr a libretwyr.
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y DU a/neu sefydliadau rhyngwladol.
  • Gwybodaeth am strwythurau cyllido cyhoeddus, yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a/neu Gyngor Celfyddydau Lloegr.
  • Profiad o gefnogi llwybrau, o ymchwil a datblygu i waith ar y prif lwyfan neu waith teithiol.
  • Gwybodaeth am gyd-destun diwylliannol Cymru a/neu brofiad o weithio gydag artistiaid o Gymru neu a leolir yng Nghymru.
  • Sgiliau iaith Gymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith ac ymhél â hi.
  • Profiad o gynrychioli sefydliad o fewn y sector celfyddydau a diwylliant.
  • Gwybodaeth am fentrau cynaliadwyedd arweiniol yn y sector celfyddydau, yn cynnwys Llyfr Gwyrdd y Theatr neu fframweithiau tebyg.
  • Ymrwymiad diymwad i ymwreiddio amrywiaeth, perthyn, cynhwysiant a chydraddoldeb.

 

Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cydnabyddwn fod pobl dalentog yn oedi weithiau cyn ymgeisio pan na fônt yn bodloni pob un o’r gofynion. Dengys gwaith ymchwil bod hyn yn arbennig o wir yn achos menywod, unigolion LHDTCRhA+, pobl anabl a niwrowahanol, a phobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Os mai’r rôl hon yw’r rôl ddelfrydol i chi, rydym yn eich annog i ymgeisio – hyd yn oed os nad yw eich profiad yn cyd-fynd yn berffaith â’r holl feini prawf.

 

Addasiadau Rhesymol

Mae WNO wedi ymrwymo i gynnal proses recriwtio hygyrch a chynhwysol. Os byddwch angen unrhyw addasiadau, anfonwch e-bost i recruitment@wno.org.uk.

 

Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Mae WNO yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr cymwys. Ceir rhagor o fanylion yn y swydd-ddisgrifiad.

 

Sut i Ymgeisio

Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad llawn i gael rhagor o wybodaeth. Cysylltwch â recruitment@wno.org.uk os oes angen cymorth.