Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle i weithio yng nghalon Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau Cymraeg hanfodol yn is-adran y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle unigryw i weithio’n agos gyda Gweinidogion ac uwch arweinwyr, gan fod yng nghanol sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ddydd i ddydd.
Os ydych chi – neu rywun rydych chi’n ei adnabod – yn chwilio am her newydd ac eisiau gwneud gwir wahaniaeth yng nghanol y llywodraeth, gallai hyn fod yn gyfle perffaith.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.
Dyddiad cau: 12 Tachwedd 2025
Wrth inni edrych ymlaen at ddiwygio'r Senedd, mae'n amser cyffrous i ymuno â Llywodraeth Cymru mewn rôl sydd yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau.
Mae gweithio mewn Swyddfa Breifat yn cynnig cyfle unigryw i weithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion mewn amgylchedd proffil uchel, sy'n symud yn gyflym. Mae'n gam gwerthfawr ymlaen mewn unrhyw yrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnig cipolwg ar sut mae llywodraeth yn gweithredu a sut mae polisi yn cael ei lunio.
Pwrpas y Swydd
Er mwyn cefnogi'r Swyddfa Breifat i redeg yn effeithiol, byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Ysgrifennydd Preifat ac yn cymryd cyfrifoldeb am un o'r rolau allweddol canlynol: