A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cymorth gweinyddol – Swyddfa Breifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet x 4 / Swyddle
Swydd:
Cymorth gweinyddol – Swyddfa Breifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet x 4
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£24,421 i £28,246
Cyfeirnod:
Cyf 3164
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llywodraeth Cymru I Welsh Government
Dyddiad Cau:
12-11-2025

Cyfle i weithio yng nghalon Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau Cymraeg hanfodol yn is-adran y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.

Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle unigryw i weithio’n agos gyda Gweinidogion ac uwch arweinwyr, gan fod yng nghanol sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ddydd i ddydd.

Os ydych chi – neu rywun rydych chi’n ei adnabod – yn chwilio am her newydd ac eisiau gwneud gwir wahaniaeth yng nghanol y llywodraeth, gallai hyn fod yn gyfle perffaith.

Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.

Dyddiad cau: 12 Tachwedd 2025

 

Wrth inni edrych ymlaen at ddiwygio'r Senedd, mae'n amser cyffrous i ymuno â Llywodraeth Cymru mewn rôl sydd yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau. 

Mae gweithio mewn Swyddfa Breifat yn cynnig cyfle unigryw i weithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion mewn amgylchedd proffil uchel, sy'n symud yn gyflym. Mae'n gam gwerthfawr ymlaen mewn unrhyw yrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnig cipolwg ar sut mae llywodraeth yn gweithredu a sut mae polisi yn cael ei lunio. 

Pwrpas y Swydd 

Darparu cymorth gweinyddol a strategol effeithiol, o ddydd i ddydd i un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, fel aelod allweddol o dîm Swyddfa Breifat bach, proffil uchel. Mae'r rôl hon sy'n symud yn gyflym yn ganolog i waith y llywodraeth, gan gynnig cyfle unigryw i weithio'n agos gyda Gweinidogion ac uwch-swyddogion. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli cyfathrebu, cydgysylltu blaenoriaethau, a sicrhau bod busnes Gweinidogol yn rhedeg yn effeithiol, gan ddatblygu gwybodaeth werthfawr am sut mae llywodraeth yn gweithredu. 

I gael rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio yn Llywodraeth Cymru ac i ddysgu am ein Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, dilynwch y ddolen hon: 

Gyrfaoedd yn y swyddfa breifat ac yn ysgrifenyddiaeth y cabinet | LLYW.CYMRU