Mae Swyddle yn darparu gwasanaethau recriwtio arbenigol er mwyn dod o hyd i’r staff dwyieithog gorau ar gyfer eich anghenion chi. Rydym yma i’ch galluogi i fanteisio ar y farchnad ddwyieithog ac mae gennym brofiad helaeth o recriwtio siaradwyr Cymraeg ar ran sefydliadau lleol a chenedlaethol ar draws pob sector.
Wrth gynnig gwasanaeth personol, gan gynnwys cyfarfod â chi wyneb yn wyneb er mwyn deall eich anghenion a’r rôl sydd angen ei lenwi, gallwn dargedu’r hysbyseb swydd ar-lein yn ogystal â mynediad i’r gronfa fawr o ymgeiswyr posib sydd eisoes yn rhan o’n rhwydwaith o siaradwyr Cymraeg er mwyn sicrhau’r ymgeiswyr gorau.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth yn ystod y camau penodi gan gynnwys mynd trwy CVau, cydlynu cyfweliadau, trafod termau, gwirio geirda a gwiriadau diogelwch a chydlynu adborth i ymgeiswyr.
Rydym yn cynnig pecyn recriwtio yn seiliedig ar drefniant DIM LLWYDDIANT, DIM TȂL.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni ar post@swyddle.cymru