Mae Swyddle yn cynnig atebion staffio dros dro i sefydliadau sy’n dymuno datblygu, gwella neu sicrhau parhad gwasanaeth dwyieithog.
Gyda phrofiad o weithio gyda’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru, mae Swyddle yn gallu darparu tawelwch meddwl gyda gwasanaeth 24 awr y dydd, staff cwbl ddwyieithog ac ymgeiswyr wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer eich anghenion chi.
Gallwn ddarparu siaradwyr Cymraeg ar gyfer:
• Swyddi gweithredol (e.e. Mewnbwn data, derbynfa, canolfan alwadau).
• Swyddi sy’n eich cynorthwyo i gyfathrebu (e.e. Cyfieithu, ymwneud â’r gymuned, marchnata, gwerthu).
• Swyddi sy’n caniatáu i’ch busnes gwrdd â’r safonau cywir (e.e. Adnoddau dynol, swyddogion polisi, gwaith achos, cais/tendro).
Rydym hefyd wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw i’n gweithwyr dros dro.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni ar post@swyddle.cymru