Cefnogi Busnesau Bach – Cymraeg Byd Busnes

Cefnogi Busnesau Bach – Cymraeg Byd Busnes

Mae prosiect pwrpasol i gefnogi defnydd y Gymraeg mewn busnesau bach wedi ei lawnsio’n swyddogol.

Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd swyddogion Cymraeg Byd Busnes yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyfieithu bwydlenni, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau hyrwyddo, gyda phwyslais amlwg ar y stryd fach a’r stryd fawr.

 

1. Rhwydwaith Cenedlaethol

Amcan y prosiect hefyd yw i ymgysylltu a nifer peneodedig o fusnesau yn codi eu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ac eu annog i ddefnyddio a’i arddangos fwy a meithrin perthynas dwys gyda nifer llai o fusnesau gan eu cynorthwyo gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gyda busnesau er mwyn codi ymwybyddiaeth a hwyluso’r gwasanaethau a fydd yn cynnwys 10 rhwydwaith lleol ac 1 cenedlaethol.

 

2. Gwell Gwasanaeth Cwsmer

Mae darparu gwasanaethau dwyieithog yn gwneud synnwyr o ran busnes ac yn fasnachol. Mae galw cynyddol amlwg ar gyfer gwasanaethau dwyieithog fel y dull arferol o weithredu gan sefydliadau a busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru.

Mae 82% o siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau neu ddeunydd gan gwmni dwyieithog a dywed 83% o siaradwyr Cymraeg y byddant yn aros yn ffyddlon os ydych yn darparu gwasanaeth dwyieithog.  Ar hyn o bryd mae 350,000 o’r holl bobl dros 3 mlwydd oedd yn siarad Cymraeg yn ddyddiol1 a dim ond codi bydd y galw gan y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn galw’n gynyddol am wasanaethau dwyieithog llawn.  Mae canran y sawl sy’n siarad Cymraeg fwyaf ymysg rheiny sydd rhwng 3-15 mlwydd oed (mor uchel a 50% mew rhai ardaloedd)

Ein neges cyson ni yn Swyddle yw os ydych yn fusnes, mae’r cynnydd cynyddol hwn yn rhoi’r cyfle i gynyddu eich cwsmeriaid drwy eich gwneud yn wahanol i gwmnïau eraill a cynnig gwasaneth Cymraeg gweledol.  Engrhaifft o hyn yw dangos gwerth ychwanegol drwy gynnig profiad dwyieithog I ymwelwyr ac mae Busnes Cymru yn cynnig ariannu i fusnesau ym myd busnes sy’n gallu cynnig y math yma o werth ychwanegol.

 

3. Staff Dwyieithog

Mae hefyd modd mynd gam ymhellach a chyflogi staff dwyieithog, sydd yn ddatrysiad hir dymor a chost effeithiol,  gan fod staff dwyieithog yn gallu gwneud eu swydd yn y ddwy iaith.  Drwy wneud hyn mae modd Marchnata yn uniongyrchol i’ch cwsmeriaid a dangos ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid a meithrin teyrngarwch oddi wrth cwsmeriaid presennol. Mae hefyd yn fodd o ddarparu cysylltiad uniongyrchol a chyswllt gyda’ch cymunedau lleol.

Bydd gweithio gyda Swyddle yn eich galluogi chi i gyflawni hyn yn gyflym ac effeithiol drwy recriwtio staff dwyieithog yn eich busnes chi.  Cysylltwch ar 029 2030 2182 am sgwrs bellach i weld sut gallwn eich cynorthwyo.