Mae Cynllun Kickstart a gafodd ei lansio gan Lywodraeth y DU y llynedd yn un cynllun sydd ar gael i gynorthwyo busnesau sy’n creu swyddi newydd i bobl ifanc.
Ydych hi wedi clywed am Gynllun Kickstart ond ddim yn siwr os beth yw’r manteision ac os yw’n rhywbeth y dylai eich busnes chi fod yn rhan ohono? Wel, rydym ni wedi casglu gwybodaeth allweddol ar eich rhan felly darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Gallwch ddefnyddio Cynllun Kickstart er mwyn cael cyllid i greu lleoliadau gwaith newydd ar gyfer pobl ifanc sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.
Mae’r cyllid sydd ar gael fel rhan o’r cynllun yn talu am:
Gall y cyflogwr gynnig cyflog uwch a mwy o oriau, ond ni fydd y cynllun yn talu am y gost ychwanegol. Mae cyllid pellach hefyd ar gael ar gyfer hyfforddiant a chefnogaeth fel y gall pobl ifanc sydd ar y cynllun gael swydd yn y dyfodol.
Y peth cyntaf y byddech chi'n sylwi arno o bosib yw bod Cynllun Kickstart yn agored i gwmnïau neu sefydliadau sy'n gallu cynnig lleiafswm o 30 lleoliad yn unig. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n gallu creu 30 swydd newydd, mae’n bosib i chi bartneriaethu gyda sefydliadau a busnesau eraill yn eich ardal drwy gysylltu â chynrychiolydd Cynllun Kickstart yng Nghymru:
Yng Nghymru, mae CGGC yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol na allant fel arall fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael mynediad at y cynllun.