Beth bynnag yw eich maes arbenigedd, wrth ystyried ceisadau am swyddi a chyfweliadau, mae’n ymddangos bod rhai “cas bethau” yn gyffredin i bawb.
Mae’r rhan fwyaf o reolwyr yn gwybod yn union be i chwilio amdano, naill ai’n ddywediad rhy gyffredin ar CV neu’n ymddygiad mewn cyfweliad.
Gofynnodd REED Online i dros 300 o recriwtwyr yn ddiweddar i rhoi gwbod yr hyn sy’n gas bethau iddynt a’r hyn yn union maent yn ei ddisgwyl wrth ystyried ymgeisydd.
Ai ysgwyd llaw gwan neu sillafu a gramadeg gwael yw’r gwir rheswm am wrthod ymgeiswyr?
Heblaw am yr hyn sy’n hollol amlwg (h.y. cymwysterau a phrofiad blaenorol), mae’r rhan fwyaf o recriwtwyr wedi dynodi mai’r ffordd mae rhywun yn cyflwyno ei hyn ddylai gael y flaenoriaeth. Mewn gwirionedd, dewisodd dros hanner y rheiny a holwyd yr ymarfer o rhoi trefn rhesymegol ar gyfer cyflwyno fel y peth mwyaf pwysig i’w ystyried ar CV.
Cafodd fformad da a hyd priodol hefyd eu pwysleisio gan y rhan fwyaf o rheolwyr fel gofynion, gan awgrymu fod y CV a ysgrifenwyd orau yn cael eu gadael i lawr gan gyflwyno gwael.
Ac os ydych yn tybio pa mor hyd dylai CV fod, roedd cyfanswm o 91% o recriwtwyr o’r farn for dogfen Word o dwy neu dair tudalen yn ddigon. Serch hynny, sut mae’r cynnwys yn cael ei gyflwyno oedd yn bwysig…
Bu i dros 50% o recriwtwyr amlygu sillafu a gramadeg gwael fel y prif boendod.
Mae’r rhain yn gyffredin i recriwtwyr gan eu bod nid yn unig yn dangos diffyg amser ac ymdrech yn gwirio CV, maent yn weddol hawdd i’w cywiro.
Mewn cymhariaeth, dim ond un mewn pedwar o’r rheiny a holwyd ddywedodd mae diffyg amlwg yn y cymwysterau perthnasol i’r swydd benodol oedd eu prif poendod.
I sawl rheolwr, does dim byd gwaeth na CV generic.
Gyda golwg ar hwn, dywedodd un o bob tri recriwtiwr mae eu cas ddywediad mwyaf cyffredin oedd ’rwy’n mwynhau cymdeithasu â ffrindiau’
Yn ail agos oedd datganiad tebyg sef ‘Chwarae rhan dda mewn tîm neu’n gweithio’n dda fel unigolyn’, gyda 28% o reolwyr a holwyd yn adnabod hwn fel eu cas frawddeg nhw.
Bu i 42% o recriwtwyr amlygu cyrraedd yn hwyr fel y prif gamwedd mewn cyfweliad.
Er na ellir osgoi hyn bob amser, gall ymgeiswyr hwyr ddechrau ar y nodyn anghywir gyda un o bob pump rheolwr yn dweud eu bod wedi profi hwn ar ryw gyfnod yn eu gyrfa. I sawl un, yr ymgeiswyr hynny sy’n cyrraedd yn hamddenol hwyr heb ymddiheuro oedd yn eu gwylltio fwyaf. Gall ymgeiswyr sy’n ddigon cwrtais i roi galwad o flaen llaw rhoi eu hun mewn gwell sefyllfa.
Heblaw am fod yn hwyr, diffyg paratoi amlwg ar gyfer cyfweliad oedd yn ail agos, gyda un o bob pedwar yn pleidleiso dros y rheswm hwn fel eu cas beth.
Yn olaf, ni ellir gor-bwysleiso pwysigrwydd osgo neu ddal y corff yn bositif ac ysgwyd llaw cadarn. Efallai eu bod yn ymddangos yn syniadau hen ffasiwn, ond i nifer o recriwtwyr, mae dal y corff yn gywir yn parhau i fod yn bwysig ac yn rhoi neges bositif am y person sy’n cael ei g/chyfweld.
Ar y nodyn hwn, dywed 80% o gyflogwyr eu bod yn hoff o ysgwyd llaw cadarn…