Swydd:
Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid (NEU dan hyfforddiant)
Lleoliad:
Bangor, Gogledd Cymru
Cyflog:
Graddfa 4 (NEU 3)
Cyfeirnod:
T-A-GIeu
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
28-11-2023

Teitl y Swydd:  Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid

                                              Neu

                       Tiwtor Asesydd Gwaith Ieuenctid o dan hyfforddiant                        

Math o gontract:  Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  G4: £27,200 - £29,916  - gyda chymhwyster asesu galwedigaethol a/neu gymhwyster gwaith ieuenctid lefel 6+

                G3: £24,336 - £27,190 os o dan hyfforddiant - heb gymhwyster asesu galwedigaethol a chymhwyster gwaith ieuenctid lefel 6 + (yn symud i G4 wedi cwblhad yr hyfforddiant a blwyddyn o wasanaeth).

Lleoliad:  Ar draws Gogledd Cymru – gweithio o swyddfa Bangor.

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Yn dilyn llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd a’r Rhaglen Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid yn mynd o nerth i nerth ers iddo gael ei lansio ym mis Mawrth, mae yna angen am asesydd eiddgar i ymuno â’r tîm.

Bydd y swydd hon yn un allweddol er mwyn darparu dysgu, addysgu ac asesu o’r safon uchaf i brentisiaid Gwaith Ieuenctid.

 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) ar 07930 964625 neu catrindavis@urdd.org

 

Dyddiad Cau –  28/11/2023

Dyddiad Cyfweld –  i'w gadarnhau

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.