Diben y Swydd:
Diben Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC) yw
arolygu ffiniau a threfniadau etholiadol ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, a
chyflwyno cynigion i Weinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â newidiadau a allai fod yn
ddymunol er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Diben y Comisiwn Ffiniau i Gymru (CFfG) yw arolygu ffiniau etholaethau Seneddol yng
Nghymru. Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol ymgynghorol
sy’n cael ei noddi a’i ariannu’n llwyr gan Swyddfa’r Cabinet.
Mae’r Comisiwn yn cyflwyno
adroddiadau i Weinidog Swyddfa’r Cabinet, ac mae’r Gweinidog yn gyfrifol am eu cyflwyno
gerbron y Senedd.
cyflenwyr yn rheolaidd, yn ogystal â chysylltu â rhanddeiliaid i gael gwybodaeth a derbyn galwadau ffôn gan y cyhoedd, gan ateb ymholiadau lle bo hynny’n briodol.
Math o Gontract
Mae’r swydd hon yn un am gyfnod penodol, y disgwylir iddo redeg o fis Chwefror 2021 i fis
Rhagfyr 2022.
Patrwm gwaith- Amser llawn, ond croesewir ceisiadau gan y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser (mae oriau hyblyg ar gael).
Tasgau allweddol:
• Cofnodi a monitro cynrychiolaethau sy’n cael eu derbyn, trefnu iddynt gael eu
cyfieithu, paratoi ar gyfer eu cyhoeddi a chofnodi cynrychiolaethau ar gronfa ddata’r
Comisiwn, a rhoi gwybod i reolwyr ar unwaith am unrhyw broblemau neu oedi a all
godi;
• Agor, cofnodi a dosbarthu post sy’n cael ei dderbyn, a dosbarthu post sy’n cael ei
anfon;
• Dyletswyddau prynu cyffredinol drwy’r gronfa ddata Prynu – paratoi archebion
prynu ar gyfer eitemau cyffredinol, offer swyddfa, cyfieithiadau, argraffu, cyngor
cyfreithiol, llogi ceir ac ati;
• Cyfrannu at ymrwymiad y Comisiwn i ddatblygu cynaliadwy drwy ailgylchu a
defnyddio adnoddau’n ystyrlon;
• Derbyn galwadau ffôn ac ateb ymholiadau, lle bo hynny’n bosibl. Trosglwyddo
galwadau i’r cydweithwyr priodol pan nad ydych yn gallu ateb ymholiad;
• Helpu i baratoi llythyron i’w dosbarthu, a dosbarth adroddiadau’n brydlon;
• Helpu i roi Hysbysiadau Cyhoeddus a Datganiadau i’r Wasg yn y cyfryngau;
• Helpu i gydlynu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd CFfDLC a CFfG;
• Helpu i drefnu Gwrandawiadau Cyhoeddus CFfG, archebu gwestai a gwneud
trefniadau teithio. Bydd rhywfaint o deithio yn ofynnol;
• Gwaith ffeilio cyffredinol ar gyfer CFfDLC a CFfG; a
• Dyletswyddau cyffredinol eraill sy’n gymesur â’r radd, yn unol â chyfarwyddiadau.
Ymddygiad Gofynnol:
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol ar lefel 1.
Cydweithio:
• Cyfrannu’n rhagweithiol at waith y tîm cyfan, a bod yn fodlon ymgymryd â rolau
newydd a gwahanol.
Rheoli gwasanaeth o ansawdd da:
• Ennill dealltwriaeth glir o anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid.
• Cynllunio, trefnu a rheoli eich amser eich hun i ddarparu gwasanaeth o ansawdd
uchel a sicrhau bod cydweithwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.
Cyfathrebu a dylanwadu:
• Defnyddio dull cyfathrebu priodol ar gyfer pob unigolyn, fel e-bost, galwad ffôn neu
wyneb-yn-wyneb, gan ystyried ei (h)anghenion unigol.
• Gwrando a holi er mwyn gwirio dealltwriaeth.
Meini prawf penodol y swydd (hanfodol):
1. Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office, Word, Excel ac Access
2. Sgiliau trefnu effeithiol
3. Siaradwr Cymraeg (1 swydd)
Meini prawf penodol y swydd (dymunol):
1. Siaradwr Cymraeg (1 swydd)
Y Gymraeg:
Mae gan y Comisiwn Gynllun Iaith Gymraeg, sy’n ymrwymo i’r egwyddor y bydd y
Comisiwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ymgymryd â busnes cyhoeddus
yng Nghymru. Felly, byddai cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu gallu.