Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Rydym yn chwilio am Reolwr Busnes a Datblygu profiadol ar gyfer Tŷ Gwyrddfai. Bydd y Rheolwr Busnes a Datblygu yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a chyflawni gweithgareddau yn Nhŷ Gwyrddfai yn llwyddiannus. Byddwch hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a meithrin partneriaethau lleol a rhanbarthol a rhwydweithiau gan gyfleu potensial yr hwb datgarboneiddio cyffrous, arloesol a cyntaf o'i fath yma yng Nghymru.
Byddwch yn goruchwylio a rheoli gweithrediadau dydd i ddydd Tŷ Gwyrddfai. Mae hyn yn cynnwys rhoi cynllun busnes Tŷ Gwyrddfai ar waith; rheoli cyllideb; rheoli rhanddeiliaid; polisïau ac ymarferion; rheoli llinell staff.
Byddwch yn adnabod a rheoli cyfleoedd newydd i ymestyn cyrhaeddiad Tŷ Gwyrddfai ynghyd â'r hyn sy'n cael ei gynnig yno a'i dwf. Mae hyn yn cynnwys adnabod a chyflawni cyfleoedd am grant; cyfleoedd masnachol; adnabod ac arwain ar brosiectau i gael eu cyflawni yn Nhŷ Gwyrddfai sy'n sicrhau canlyniadau llwyddiannus i'r economi leol.
Bydd eich gwaith yn cefnogi gwaith partneriaid allweddol i allu cyflawni pob canlyniad allweddol o fewn cynllun busnes Tŷ Gwyrddfai a sicrhau bod Tŷ Gwyrddfai yn cyflawni ei botensial.
Beth yr ydym yn chwilio amdano:
Rydym yn chwilio am berson deinamig i ymuno â’n tîm uchelgeisiol i sicrhau bod cynllun busnes Tŷ Gwyrddfai yn cael ei gyflawni ac yn darparu buddion a chyfleoedd sylweddol i'r economi leol.
Byddwch yn adeiladu ar enw da Adra fel cwmni arloesol sy'n cyflawni ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer cwsmeriaid a chymunedau.
Byddwch yn rhagori wrth gyflawni ystod eang o brosiectau arloesol a bydd gennych sgiliau datblygu busnes gwych a meddwl masnachol craff.
Bydd gennych allu naturiol i ddatblygu perthnasau gwaith presennol a newydd ar lefel uwch sy'n arwain at gyflawni ystod eang o gyfleoedd yn Nhŷ Gwyrddfai
Bydd gennych sgiliau arwain cryf, byddwch yn hyderus ac yn gyfeillgar gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
Byddwch yn hyderus wrth wneud penderfyniadau a datrys problemau, byddwch yn fedrus wrth weithio ar eich pen eich hun, mewn amgylchedd dan bwysau ac yn gallu cynnal a chwrdd â therfynau amser heriol.
Bydd gennych brofiad perthnasol gyda hanes wedi’i brofi o gyflawni canlyniadau mewn amgylchedd tebyg.