Swydd:
Graddedig Dylunio Strydoedd
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£27,000
Cyfeirnod:
REC01145
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
16-03-2025

Disgrifiad swydd

Bod yn chi eich hun 

Bod yn rymus 

Bod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru 

 

Graddedig Dylunio Strydoedd 

 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun i raddedigion yn gyfle i gyflymu eich gyrfa.  

 

Beth fyddai fy nghyfrifoldebau? 

Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu dyluniadau ar gyfer strydoedd newydd, gan helpu i’w gwneud hi’n haws i bawb gerdded a beicio, fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig i Gymru.  

  

 Bydd y dyluniadau hyn yn ffurfio’r dogfennau allweddol sy’n cael eu rhoi i gontractwyr adeiladu i ailadeiladu strydoedd, gan alluogi dewisiadau trafnidiaeth mwy llesol i bobl o bob oed, rhywedd a gallu.  

  

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  • Gradd/gradd-brentisiaeth mewn dylunio trefol, peirianneg sifil, peirianneg priffyrdd/trafnidiaeth, pensaernïaeth tirwedd, neu gymhwyster tebyg mewn disgyblaeth amgylchedd adeiledig. 
  • Sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio ffurfiau graffigol, ysgrifenedig a llafar.  
  • Y gallu i gyfleu manteision strydoedd a lleoedd sydd wedi’u dylunio’n dda mewn modd perswadiol.  
  • Diddordeb technegol mewn dylunio strydoedd sy’n ei gwneud yn haws cerdded, beicio ac olwyno ar gyfer teithiau bob dydd. 

 

Sgiliau Cymraeg 

Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

 

Y camau nesaf 

Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs. 

 

Cyfle cyfartal 

Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o gael gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.  

 

Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.  

 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.