Rheolwr Strategaeth
Casnewydd, Cymru (gyda gwaith hybrid)
Amdanom Ni
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.
Ein blaenoriaethau strategol dros y pum mlynedd nesaf yw:
- Datblygu ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed
- Adeiladu arlwy cymwysterau effeithiol a chynaliadwy
- Moderneiddio dulliau asesu
- Cefnogi'r system gymwysterau trwy grantiau ac arbenigedd
Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Strategaeth i ymuno â ni yn llawn amser, parhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys oriau rhan-amser, rhannu swydd a secondiadau, yn y cyfweliad.
Y Manteision
- Cyflog o £43,785 - £51,839 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Y Rôl
Fel ein Rheolwr Strategaeth, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu, monitro ac adrodd ar ein hamcanion strategol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a pholisïau’r llywodraeth.
Byddwch yn cynnal ein blaenoriaethau strategol treigl 5 mlynedd, yn rhoi cipolwg ar yr amgylchedd gweithredu allanol ac yn hwyluso gweithdai datblygu strategaeth gydag uwch arweinwyr.
Gan gefnogi’r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol mewn cydymffurfiaeth, gan weithredu fel yr arweinydd sefydliadol ar bolisïau sy’n ymwneud â Chydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Safonau’r Gymraeg a thargedau Sero Net.
Yn ogystal, byddwch yn monitro'r dirwedd strategol yn agos, gan weithio gyda thimau mewnol eraill i ddarparu mewnwelediad cynhwysfawr ar ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n effeithio ar ein strategaeth.
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried fel Rheolwr Strategaeth, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o gefnogi cydweithwyr i ddatblygu a chyflwyno strategaethau ar lefel gorfforaethol neu swyddogaethol
- Profiad o arwain a hwyluso gweithdai a thrafodaethau ar bob lefel
- Profiad o gefnogi gosod a monitro amcanion ac adrodd ar berfformiad
- Profiad o adolygu gwybodaeth, data ac adroddiadau a'u crynhoi i gyfathrebiadau wedi'u teilwra neu gynnwys gwefan
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth cydraddoldeb a newid hinsawdd a pholisïau llywodraeth cysylltiedig
- Cymwysterau sy'n dangos y gallu i ymchwilio i bynciau a chwblhau dadansoddiadau
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 23 Medi 2024.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Cynllunio Strategol, Rheolwr Cydymffurfiaeth a Strategaeth, Rheolwr Strategaeth Gorfforaethol, Rheolwr Mentrau Strategol, neu Reolwr Polisi a Strategaeth.
Felly, os ydych chi'n chwilio am rôl newydd wych fel Rheolwr Strategaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.