Swydd:
Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol - Cymraeg yn Hanfodol
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
Gradd 7 - £56,112 - £67,095
Cleient:
Llywodraeth Cymru I Welsh Government
Pwrpas y swydd
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. Mae rôl Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae'n bosibl y bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel rheolwr llinell ar gyfer Rheolwyr Arolygu Awdurdodau Lleol a bydd yn cefnogi'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau a swyddogaethau busnes craidd cyson, effeithiol, effeithlon o ansawdd da.
Mae rôl Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol yn rhan o'r Uwch-dîm Arwain ac fel y cyfryw, bydd yn cyfrannu at y gwaith o oruchwylio a darparu swyddogaethau busnes craidd o fewn AGC.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.
Tasgau Allweddol
Arweinyddiaeth:
- Arwain, rheoli a chyfrannu at y broses o gynllunio a darparu rhaglen ar gyfer arolygu, craffu ar ac adolygu awdurdodau lleol, yn ogystal â chynnal arolygon ac archwiliadau ledled Cymru, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli'n gadarn ac yn unol â blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.
- Arwain a bod yn gyfrifol am ansawdd ac amseroldeb pob agwedd ar weithgarwch craffu ar berfformiad, adolygu ac arolygu awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau mewnol.
- Arwain a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu dulliau arloesol o ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu integredig, a rhoi'r dulliau hyn ar waith.
- Gallu gweithio â blaenoriaethau sy'n cystadlu ac amgylcheddau sydd weithiau'n newid yn gyflym.
- Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau sicrhau perfformiad a sicrhau ansawdd cryf ar waith a chyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.
- Mewn amgylchiadau lle mae cyfrifoldeb rheoli llinell, sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith mewn perthynas ag atebolrwydd, cydymffurfiaeth a goruchwylio a datblygu'r tîm gan reolwyr.
- Fel arweinydd strategol yn AGC, byddwch yn bwrw ati mewn ffordd ragweithiol i hyrwyddo ein gwerthoedd a'n hymddygiadau gan ddangos esiamplau ohonynt ym mhob rhan o'ch gwaith.
- Bwrw ati mewn ffordd ragweithiol i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o'n gwaith, gan fanteisio ar gyfleoedd i wella eich ymarfer a'ch gwybodaeth am bob rhan o AGC.
- Arwain y broses o lunio cynlluniau strategol ar gyfer AGC a chyfrannu at y cynlluniau hynny, gan gynrychioli AGC fel y bo angen. Gall hyn gynnwys cadeirio Byrddau neu grwpiau perthnasol eraill er mwyn helpu AGC i gyflawni ei nod a'i ddiben.
- Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch fel sy'n ofynnol.
- Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol fel y bo angen.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.
Gweithio mewn partneriaeth a rhwydweithiau:
- Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol priodol a chysylltiadau polisi allweddol perthnasol mewn cyrff cenedlaethol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac yn Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio perthnasol a dynodedig ac ag asiantaethau statudol eraill sy'n gyfrifol am ddarparu a chomisiynu gwasanaethau.
- Arwain y gwaith o ymgysylltu â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, aelodau etholedig arweiniol a phwyllgorau craffu'r Awdurdod Lleol. Mynychu pwyllgorau craffu fel y bo angen.
- Cynrychioli'r Arolygiaeth Gofal fel y bo'n ofynnol ar amrywiaeth eang o grwpiau mewnol ac allanol ac mewn cynadleddau a digwyddiadau allanol.
- Bod yn aelod gweithgar o'r Uwch-dîm Arwain a gweithio ar draws is-adrannau i arwain y gwaith o oruchwylio a darparu swyddogaethau busnes craidd neu gyfrannu at y gwaith hwnnw yn AGC.
- Sefydlu a chynnal cydberthnasau effeithiol ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â threfniadau statudol a chydweithredol.
- Cynnal cydberthnasau effeithiol â chydweithwyr polisi, gan ddylanwadu ar y broses o ddatblygu polisïau.
Dull darparu:
- Llunio barn gadarn a chytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith gwasanaethau a ddarperir o fewn yr ystod o wasanaethau i blant ac oedolion, fel sy'n ofynnol.
- Llunio adroddiadau gwerthusol ar gyfer y cyhoedd sydd o ansawdd cyson uchel a gweithio'n effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi gwelliant ac arloesedd a rhannu arferion da.
- Dadansoddi data sy'n deillio o ddangosyddion allweddol, gan gynnwys gwybodaeth o weithgarwch rheoleiddio ac arolygu a gwybodaeth arall i nodi blaenoriaethau datblygu a gwella ar gyfer rhaglen arolygu, craffu ac adolygu Awdurdodau Lleol AGC.
- Arwain y broses o roi cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol fel sy'n ofynnol. Paratoi gwybodaeth friffio i Weinidogion a'r Tîm Uwch-reolwyr mewn perthynas â materion penodol fel sy'n ofynnol.
- Gweithio'n agos gydag Uwch-reolwyr mewn timau rheoleiddio er mwyn rhannu gwybodaeth.
- Arwain ar adolygiadau thematig cenedlaethol. Gall hyn gynnwys gweithio ar y cyd ag arolygiaethau eraill a/neu randdeiliaid i gyflawni darn o waith cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu, dadansoddi a llunio adroddiadau cenedlaethol, dadansoddi gwybodaeth a'r gallu i ddehongli data er mwyn creu barnau ystyrlon.
- Arwain, goruchwylio ac ystyried sylwadau ynghylch gweithgarwch rheoleiddio yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
- Cyfrannu at waith tîm, trefniadau cydweithio a chyfathrebu a sicrhau eu bod yn effeithiol.
Cyfleoedd i Ddatblygu
Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Gwybodaeth arall yn ymwneud swydd wag
Disgwyliadau'r sefydliad:
- Byddwch yn gallu gweithio o dan bwysau, bod yn hyblyg, bod yn rhagweithiol a chymell eich hun. Byddwch yn meddu ar yr uchelgais i arwain a chymell tîm er mwyn i'r tîm hwnnw weithredu'n llwyddiannus o fewn amgylchedd heriol sy'n newid yn gyflym a lle ceir cryn dipyn o bwysau.
- Byddwch yn gallu gweithredu mewn ffordd arloesol, gan chwilio am gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol a byddwch yn ddigon ymatebol i addasu ac i ddatblygu opsiynau newydd pan fydd pethau'n newid. Byddwch yn barod i addasu, yn hyblyg, yn agored i newid ac yn barod i dderbyn unrhyw newidiadau sy'n effeithio arnoch chi a'ch maes gwaith ac i ymdrin â'r newid hwnnw yn effeithlon ac yn broffesiynol.
- Fel Gwas Sifil effeithiol, byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth o'r tirlun gwleidyddol a'r rôl y mae Gweinidogion yn ei chwarae wrth bennu'r agenda ar gyfer eich maes busnes; dealltwriaeth o sut i sicrhau y caiff prosesau llywodraethu a rheoli ariannol eu rhoi ar waith; gallu i reoli risg, gan wneud penderfyniadau hyddysg heb fawr ddim arweiniad, os o gwbl; a gallu cyfathrebu'n glir ar bob lefel, gan gynnwys ag uwch-randdeiliaid a Gweinidogion.
Disgwyliadau eich tîm:
- Byddwch yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant, gan greu amgylchedd lle bydd unigolion yn teimlo'n ddiogel yn herio, yn rhannu syniadau ac yn mynegi pryderon.
- Byddwch yn fodel rôl, sy'n gallu cymell ac ysbrydoli eraill, creu gweledigaeth ac annog eraill i ymrwymo iddi, darparu cyfeiriad a blaenoriaethau clir i'r tîm, gan sicrhau bod pob aelod yn deall ei gyfraniad at gyflawni amcanion, ac yn teimlo y gall gyflawni ei rôl.
- Byddwch yn helpu i ddatblygu eraill, gan ddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd dysgu, cynllunio ar gyfer datblygiad unigolion a chynnig cyfleoedd ac anogaeth i'r unigolion hynny, yn ogystal â neilltuo amser ar gyfer eich datblygiad personol
Disgwyliadau rhanddeiliaid allweddol:
- Byddwch yn gallu defnyddio barn, tystiolaeth a gwybodaeth gadarn i roi cyngor ac arweiniad credadwy i randdeiliaid mewnol ac allanol.
- Byddwch yn deall pwysigrwydd meithrin a chynnal cydberthnasau adeiladol, o fewn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi. Bydd gennych sgiliau dylanwadu cryf a'r gallu i feithrin cydberthnasau cydweithredol sy'n herio ac yn rhoi cymorth, ac yn meithrin ymddiriedaeth a pharch cyffredinol ar draws ffiniau sefydliadol
- Byddwch yn gallu defnyddio syniadau creadigol i ddatblygu argymhellion, a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio ar draws ffiniau.
- Mae'n bosibl y cedwir rhestr wrth gefn ar gyfer y cyfle hwn. Bydd unrhyw ymgeisydd y cynigir statws wrth gefn iddo yn parhau ar y rhestr wrth gefn am gyfnod o 12 mis.
- Bydd yn rhaid rhoi cyflwyniad/sefyll prawf ar ‘Arweinyddiaeth’ yn ystod y ‘cam cyfweld’. Rhoddir rhagor o wybodaeth yn y gwahoddiadau i'r cam hwnnw. Cyflwyniad i'w gyflwyno yn Gymraeg.
- Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer dau gwestiwn, un o'r meini prawf ymddygiad ac un o'r meini prawf profiad yn yr iaith amgen. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylai o leiaf un enghraifft ymddygiad ac un enghraifft tystiolaeth gael eu hysgrifennu yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylai o leiaf un enghraifft ymddygiad ac un enghraifft tystiolaeth gael eu hysgrifennu yn Saesneg.
- Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys ar lefel gradd neu uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol/addysg derbyniol yn cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod.
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.
- Cymru Gyfan, ond bydd y swydd wedi'i lleoli yn un o brif swyddfeydd AGC, sydd ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy'n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i'ch man gwaith dynodedig na'ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i'ch man gwaith arferol dewisol.
- Gan y bydd secondai yn parhau ar ei delerau a'i amodau, bydd yn trosglwyddo ar ei gyflog presennol ac ni fydd yn gymwys i gael cyflogau na buddiannau Llywodraeth Cymru. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol, e.e. lle byddai cyfle secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y gellir cynnig hyblygrwydd. Yn y sefyllfa hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i dalu'r Secondai ar lefel isaf y Band Cyflog ar gyfer y Radd y caiff ei benodi iddi, ond byddai angen i gyflogwr y Secondai gymeradwyo hynny ac ni fyddai unrhyw godiadau cyflog pellach yn cael eu cymeradwyo yn ystod cyfnod y secondiad oni fyddai'r codiadau cyflog hynny yn unol â buddiannau cyflog cytundebol cyflogwr y secondai ac y byddai Llywodraeth Cymru wedi cytuno iddynt.
- Mae'r swydd hon yn golygu ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu ledled Cymru ac felly bydd angen teithio ac aros dros nos ar adegau yn ogystal â gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd.
- Ar ôl y cam cyfweld, os bydd gan ddau ymgeisydd llwyddiannus yr un sgôr ond nad oes digon o swyddi ar gael, bydd y panel yn cyfeirio'n ôl at y sgôr gyffredinol ar gyfer eu ceisiadau i ddechrau.
- Os bydd gan y ddau yr un sgôr o hyd, bydd y panel yn adolygu'r sgôr ar gyfer Profiad 1, yna Profiad 2, Ymddygiad 1 (Arweinyddiaeth).
Lefel fetio: Uwch
Nifer y swyddi: 1
Pwynt cyswllt i gael rhagor o wybodaeth am y swydd: ciwhr@gov.wales
Gofynion y Gymraeg
Gofynion y Gymraeg
1 - Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi'u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan.
Deall drwy ddarllen
3 - Gallu darllen rhai deunyddiau arferol sy’n ymwneud â gwaith gyda chymorth, er enghraifft geiriadur
Siarad a chael eu deall
4 - Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Deall drwy wrando
3 - Gallu deall sgyrsiau arferol sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
2 - Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml sy’n ymwneud â gwaith