Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i gymryd cyfrifoldeb am sicrhau argaeledd (availability) dydd i ddydd systemau gwybodaeth Grwp Cynefin a bod yn gyfrifol am ddiogelwch cyfrifiadurol dydd i ddydd. Byddwch yn bri cyswllt gweithredol dydd i ddydd ar faterion rhwydwaith a diogelwch systemau gan weithredu newidiadau isadeiledd a darparu cefnogaeth ail reng (2nd line support).
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i'n dyfodol, hon yw’r swydd i chi.