Swydd:
Ymchwilydd
Lleoliad:
Caernarfon
Cyflog:
yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
202504T
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
02-05-2025

Ymchwilydd

 

Heno / Prynhawn Da - Tinopolis, Caernarfon

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf a phwysig o fewn cadwyn cynhyrchu cynnwys. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu aml-blatform ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd ag uchelgais i ddatblygu gyrfa yn y maes.

Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau aml blatform, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu.

Prif weithle: Swyddfeydd Tinopolis yn Galeri, Caernarfon. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio ar hyd a lled y Gogledd i ymchwilio a ffilmio cynnwys.

Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin deledu mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh, a disgwylir i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos.

Gall fod cyfle i ymddangos ar sgrin fel cyfrannwr neu ohebydd, neu weithio gyda golygydd i baratoi eitem. Prif waith: dod o hyd i eitemau ar gyfer y rhaglenni.

Gallwch hefyd weithio gyda rhaglenni eraill fel Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y lloer, Carol yr ŵyl, ac ati.

 

Manylion y Swydd

  • Lleoliad: Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ
  • Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
  • Dyddiad Cau: 2 Mai 2025
  • Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos – disgwylir hyblygrwydd
  • Gwyliau: Pro rata 25 diwrnod + gwyliau banc statudol
  • Pensiwn: 3% gan Tinopolis, disgwylir 5% gan y cyflogai

 

Sut i Wneud Cais

Anfonwch lythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Gwener 2 Mai 2025 at:

Ebost: swyddi@tinopolis.com

Post: Swyddi, Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd tystiolaeth o gymhwyster yn ofynnol fel rhan o’r broses recriwtio.

Bydd CVs yn cael eu cadw ar ffeil am 3 blynedd. Mae gennych hawl i ofyn am ddileu eich data ar unrhyw adeg. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am fwy o wybodaeth