A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cefnogi Clybiau Rhanbarthol – Gogledd Cymru Actif / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cefnogi Clybiau Rhanbarthol – Gogledd Cymru Actif
Lleoliad:
Gwynedd
Cyflog:
£37,280 - £39,152 y flwyddyn
Cyfeirnod:
25-29009
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gogledd Cymru Actif / North Wales Actif
Dyddiad Cau:
04-12-2025

Lleoliad: Hybrid gyda disgwyliad i fynychu cyfarfodydd yn Llanelwy yn ôl y gofyn.

Math Swydd: Cyfnod penodol o ddwy flynedd, gyda’r posibilrwydd o estyn yn amodol ar ddangos effaith y rôl a’r argaeledd o gyllid yn y dyfodol.

Croesewir ceisiadau ar sail secondiad.

Rheolwr Cefnogi Clybiau Rhanbarthol

Ydych chi'n angerddol am chwaraeon ar lawr gwlad a gweithgarwch corfforol?

Ydych chi'n ffynnu ar gydweithio, arloesi, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau?

Mae hon yn gyfle unigryw i arwain cynllun peilot rhanbarthol a fydd yn cryfhau seilwaith clybiau cymunedol ac yn eu helpu i ffynnu.

Mae Gogledd Cymru Actif yn chwilio am gysylltydd angerddol i gefnogi clybiau llawr gwlad ledled y rhanbarth.


✅ Hyrwyddwr chwaraeon cymunedol 
✅ Meddyliwr strategol ac adeiladwr perthnasoedd
✅ Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
✅ Yn barod i weithio'n hyblyg ledled Gogledd Cymru
Mae gan Gogledd Cymru Actif becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
 
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. 
 
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. 
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.) 
 
   Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Michael Parry ar 07721 052 470 neu drwy e-bost: mike@gogleddcymruactif.cymru
 
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 
Ffôn: 01286 679076 
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru 
 
⏰ DYDDIAD CAU:  10:00 O’R GLOCH, 04/12/2025 
 
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd.