Swydd:
Gweinyddwr Teithiau Amser Real
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£28,400
Cyfeirnod:
REC01223
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
02-05-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Bydd y Gweinyddwr Amser Real yn gyfrifol am ddiogelu ansawdd data allbynnau Gwasanaeth Data Bysiau Cymru, gan weithio gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid i ganfod a datrys unrhyw broblemau gyda’r ffrwd Amser Real, a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth darogan a chyfateb cerbydau o safon uchel. 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Ymchwilio i’r holl gwynion, problemau ac ymholiadau data a gyflwynir gan randdeiliaid am ffrwd Gwasanaeth Data Bysiau Cymru a’u datrys, gan ddefnyddio’r systemau a’r offer a ddarperir (Horizon, WebDMS, System Rheoli Cynnwys Data Bysiau Cymru a CitySwift) i sicrhau bod problemau yn cael eu datrys o fewn amserlen resymol.
  • Mynd ati’n frwd ac yn rhagweithiol i fonitro ffrwd Amser Real Gwasanaeth Data Bysiau Cymru am broblemau cyfateb a thracio, canfod gwraidd y problemau hyn gan ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir, a chodi’r achosion hyn gyda’r rhanddeiliaid angenrheidiol, gan ddefnyddio’r systemau a ddarperir a’r adroddiadau cyfateb, er mwyn datrys y broblem a gwella’r broses cyfateb cerbydau.
  • Gweld ym mhle mae data darogan Amser Real ar goll, neu’n anghywir, gan ddefnyddio systemau ac adroddiadau a ddarperir gan gyflenwyr Gwasanaeth Data Bysiau Cymru, a phenderfynu sut gellir cael gwared ar y bylchau hyn er mwyn gwella data darogan.
  • Rhoi cymorth a chyngor i yrwyr, gweithredwyr bysiau ac asiantau Awdurdodau Lleol ynghylch data peiriannau tocynnau a ffurfweddiad technegol cefn swyddfa, gan ddefnyddio’r wybodaeth bresennol am arferion gorau, i sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu allbynnau a data tracio amser real sydd o ansawdd uchel.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Dealltwriaeth helaeth o amserlenni a hanfodion systemau amser real; gallai hyn gynnwys rheilffyrdd neu ddulliau eraill o deithio.
     
  • Profiad o ddefnyddio Office 365, Microsoft Excel, SharePoint a Teams.
     
  • Profiad o systemau TG mwy datblygedig fel Protocol Trosglwyddo Ffeiliau (FTP), a fformatau ffeil Iaith Arwyddnodi Estynadwy.
     
  • Profiad o ddadansoddi a thracio data ar draws gwahanol systemau a phrofiad sylweddol o ddadansoddi gwybodaeth er mwyn gallu canfod gwallau ac anghysonderau.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**