Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ry’ ni’n chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis yng Nghaernarfon ar gyfer cyfnod mamolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Uwch Gynhyrchydd ac yn ymwneud â phob agwedd o waith y tîm cynhyrchu ar draws ystod o raglenni gan gynnwys Heno, Prynhawn Da a chyfresi amrywiol.
Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys rheoli’r tîm a’r adnoddau drwy’r broses gynhyrchu er mwyn cael y gwerth gorau i’r rhaglenni gan gynnwys amserlenni, trefnu criwiau saethu/ôl-gynhyrchu, logistics a gwaith papur cyn ac ôl-gynhyrchu. Yn ogystal bydd hefyd cyfrifoldeb am amrywiaeth o agweddau rhedeg y swyddfa, trefniadau teithio a gwaith achlysurol ar leoliad.
Sgiliau perthnasol: Y gallu i gyfathrebu, bod yn rhan o dîm, a chreu a chynnal perthnasau gwaith effeithiol â sawl adran yn fewnol ac yn y diwydiant. Person trefnus, hyblyg sy’n gallu blaenoriaethu ac yn cynnig ateb i broblemau.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal. Ry’ ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: Cyfnod mamolaeth
Dyddiad Cau: 14 Tachwedd 2025
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Gwener, 14 Tachwedd 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Galeri
Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ