Swydd:
Swyddog Gweini y Gwasanaeth Premier Pwll Talent (Caer)
Lleoliad:
Caer
Cyflog:
£26,052
Cyfeirnod:
REC01227
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
25-08-2025

Disgrifiad swydd

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer ein cronfa dalent Premier Service.

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Bydd Swyddog Gweini y Gwasanaeth Premier yn gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm sy’n gyfrifol am ddarparu bwyd o safon eithriadol o uchel i deithwyr yn eu sedd ac yn y cownter bwffe o ddydd i ddydd.

  • Darparu gwasanaeth gweini i’r teithwyr dosbarth cyntaf, gan gynnig gwasanaeth proffesiynol a chwrtais i deithwyr TrC. Gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth a’r gofal a roddir i gwsmeriaid yn cyrraedd safon eithriadol o uchel o ddydd i ddydd. 
  • Bod yn gyfrifol am gynnig amrywiaeth eang o nwyddau sydd ar gael i’n cwsmeriaid drwy gadw cofnod cywir o’r holl stoc, gan roi gwybod am unrhyw ddiffygion a gweithio gyda’r troli pan fydd angen er mwyn darparu gwasanaeth cyson. 
  • Cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch drwy wisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol cywir a glynu wrth asesiadau COSHH, y dulliau glanhau, a defnyddio’r holl gynnyrch glanhau yn gywir bob amser i gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. 
  • Bod yn gyfrifol am eich lles personol chi a lles ein cwsmeriaid drwy ddilyn cyfarwyddiadau’r goruchwyliwr bob amser pan fyddwch ar y trên, yn enwedig mewn argyfwng er mwyn lleihau’r risg i iechyd a diogelwch.

 Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid wyneb yn wyneb o safon uchel.
  • Sgiliau trefnu ardderchog yng nghyswllt cwsmeriaid.
  • Hyblygrwydd ac ar gael i weithio’r shifftiau sy’n ofynnol. 
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o reoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid Bwyd a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch.
  • Profiad blaenorol o ddosbarthu trafodion arian parod a gwerthu.

Sgiliau Iaith Gymraeg


Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf


A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.


Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.


* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.