Swydd:
Lleoliad PhD (rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru)
Lleoliad:
Caerdydd, Llandudno
Cyflog:
£Cystadleuol
Cyfeirnod:
SCW080
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Webrecruit
Dyddiad Cau:
08-10-2024

Lleoliad PhD (rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru)
Caerdydd a Llandudno (gyda gwaith hybrid)

Y Sefydliad

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain y gwaith o ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Wales) yn dod ag arbenigwyr gwyddor data byd-enwog, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru at ei gilydd i gynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain rhaglen waith gofal cymdeithasol ADR Cymru.

Rydym nawr yn chwilio am fyfyriwr PhD ar leoliad i ymuno â ni ar leoliad Ymchwil Data Gweinyddol Cymru am gyfnod penodol o dri mis (ar gyfer myfyriwr amser llawn) neu chwe mis (ar gyfer myfyriwr rhan-amser).

Y Manteision

- Taliad misol sefydlog o £1,855 y mis (pro rata ar gyfer myfyrwyr rhan-amser)

Mae hwn yn gyfle unigryw i fyfyriwr PhD sy’n astudio gofal cymdeithasol mewn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru ymuno â’n tîm ymroddedig a chael profiad ymarferol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso a datblygu eich sgiliau ymchwil ar faterion byd go iawn, gan gyfrannu at drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Felly, os ydych chi am gael effaith ystyrlon wrth wella eich portffolio academaidd a phroffesiynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Y Rôl

Fel myfyriwr PhD ar leoliad gyda ni, byddwch yn cefnogi ein gwaith ADR Cymru drwy gyfrannu at brosiectau ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol oedolion.

Yn ogystal, gallwch:

- Cael eich cefnogi i gael mynediad at ddata ar Fanc Data SAIL
- Annog a chefnogi perchnogion data i rannu eu data ym Manc Data SAIL
- Cynnal ymchwil data cysylltiedig ar bwnc sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion
- Hyrwyddo ymchwil data cysylltiedig trwy ddeunyddiau ysgrifenedig ar sianeli Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Abertawe, ac ADR Cymru

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cyfrannu at ein prosiect gosod blaenoriaethau, cefnogi ein grŵp ymchwil data cysylltiedig â gofal cymdeithasol oedolion, a hyrwyddo gwerth ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol oedolion. Bydd disgwyl i chi gadw at brotocolau llywodraethu, cynnal cyfrinachedd a dilyn polisïau sefydliadol.

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried fel ein myfyriwr PhD ar leoliad, bydd angen:

- Bod yn ymgymryd ar hyn o bryd neu ar fin cychwyn (o fis Medi/Hydref 2024) PhD ar ofal cymdeithasol gan ddefnyddio ymchwil data cysylltiedig neu set ddata/setiau data mawr, mewn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru
- Caniatâd gan oruchwylwyr, sefydliadau, a chyllidwyr (os yw'n berthnasol) i gymryd rhan yn y lleoliad hwn
- Gwybodaeth am ystod o dechnegau gwyddor data, dadansoddi meintiol ac ystadegol
- Sgiliau defnyddio meddalwedd ar gyfer dadansoddi ystadegol
- Sgiliau cyfathrebu Saesneg da

Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Ymchwilydd Gwyddor Data, Cynorthwyydd Ymchwil Gofal Cymdeithasol, Cynorthwyydd Ymchwil, Cydymaith Ymchwil, Dadansoddwr Ymchwil (Gofal Cymdeithasol), neu Leoliad Ymchwil PhD.

Mae Webrecruit a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac wedi ymrwymo’n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Cyfle cyfartal yw’r unig ffordd dderbyniol o gynnal busnes, a chredwn po fwyaf cynhwysol yw ein hamgylcheddau, gorau oll fydd ein gwaith.

Felly, os ydych am ymuno â ni fel myfyriwr PhD ar ein lleoliad gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.