Swydd:
Aelod Panel - aelod lleyg a chadeirydd
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£200 - £225 y dydd
Cyfeirnod:
SCW082
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Gofal Cymdeithasol Cymru/Social Care Wales
Dyddiad Cau:
06-01-2025

Aelod Panel - aelod lleyg a chadeirydd
Cymru

Amdanom Ni

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I gyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal cymdeithasol.

Fel rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydym yn cofrestru gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr ac yn gosod safonau drwy’r Cod Ymarfer Proffesiynol.

Rydym nawr yn chwilio am aelodau lleyg a chadeiryddion paneli i ymuno â ni, gan weithio o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn.

Cynhelir gwrandawiadau ar-lein fel arfer ond efallai y cynhelir rhai gwrandawiadau personol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu Gyffordd Llandudno neu leoliadau eraill yng Nghymru, felly efallai y bydd angen rhywfaint o deithio ac arosiadau dros nos.

Cydnabyddiaeth

- Cyfraddau Dyddiol: Aelod lleyg: £200; Cadeirydd: £225

(Sylwer, dim ond y rhai sy’n gymwys i wneud cais fel cadeirydd fydd yn gallu eistedd fel cadeirydd)

Y Rôl

Fel aelod o'r panel, byddwch yn asesu addasrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol i ymarfer, gan sicrhau bod penderfyniadau yn deg ac yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cynnal diogelwch y cyhoedd.

Gan weithio ar y cyd â chyd-aelodau o'r panel, byddwch yn gwerthuso tystiolaeth, yn ystyried achosion, yn gwneud penderfyniadau gwrthrychol ac yn darparu penderfyniadau clir, rhesymegol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n harweiniad.

Bydd disgwyl i aelodau lleyg a ddewisir i gadeirio gwrandawiad sicrhau tegwch gweithdrefnol, cyfrannu safbwyntiau gwrthrychol ac anwahaniaethol a hwyluso trafodaethau panel preifat sy’n blaenoriaethu gwrthrychedd a thegwch i bob parti er mwyn cytuno ar ganlyniad a fydd yn diogelu’r cyhoedd.

Yn ogystal, byddwch yn paratoi ar gyfer gwrandawiadau drwy adolygu bwndeli achos a mynd i'r afael â gwrthdaro buddiannau.

Amdanoch Chi

Mae ‘aelod lleyg’ yn rhywun sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru ac sydd heb unrhyw brofiad proffesiynol na chefndir o weithio ym maes gofal cymdeithasol. Gallai ‘aelod lleyg’ fod yn rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu rywun nad yw’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Fel cadeirydd, bydd gennych chi:

- profiad o wneud penderfyniadau ar sail deddfwriaeth, cyngor cyfreithiol a chanllawiau gweithdrefnol
- y gallu i ddarllen rhesymau panel yn uchel yn gyhoeddus yn dawel ac yn hyderus
- y gallu i drin sefyllfaoedd heriol mewn modd tawel, teg a hyderus
- hyder i arwain panel, cymryd rhan mewn trafodaethau panel a chefnogi cydweithwyr i gymryd rhan a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Ionawr 2025.

Rydym am i’n paneli gynrychioli’r gweithlu gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni yn ogystal â’r boblogaeth amrywiol yng Nghymru. Gwyddom fod rhai grwpiau’n cael eu tangynrychioli ar ein paneli ac rydym yn ceisio gwneud ein paneli’n fwy cynrychioliadol o Gymru amrywiol.

Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o’r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft, sy’n niwro-ddargyfeiriol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn gadeirydd panel addasrwydd i ymarfer, aelod panel annibynnol, cadeirydd panel lleyg, aelod lleyg, cadeirydd panel rheoleiddio, aelod panel gwrandawiad, neu gadeirydd lleyg addasrwydd i ymarfer.

Felly, os hoffech ymuno â ni fel aelod o’r panel, darllenwch y dogfennau cysylltiedig (ar yr ochr dde) a dewiswch y botwm ymgeisio a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.