Swyddogion heddlu sydd wedi gwasanaethu o'r blaen (Swyddogion Cymorth Ymchwilio – Y Ganolfan Ymchwilio)
Mae Heddlu Gwent yn chwilio am geisiadau gan swyddogion heddlu sydd wedi gwasanaethu o'r blaen a staff heddlu gyda phrofiad o ymchwilio. Nid yw'r swydd yn gyfyngedig i gyn-dditectifs. Gall unrhyw gyn-swyddog gyda meddwl ymchwiliol ymgeisio. Rhaid i chi fod yn gymwys at naill ai PIP 1 neu PIP 2 i ymgeisio.
Cynigir contractau tymor penodol 12 mis staff heddlu i swyddogion cymorth ymchwilio i gynorthwyo Canolfan Ymchwilio’r Heddlu, sy’n gyfrifol am drosglwyddo Carcharorion ac Ymchwiliadau i Droseddau.
Byddwch yn darparu cymorth mewn gwahanol ymchwiliadau a bydd gofyn i chi weithio yn rhan o dîm ymchwiliad yn casglu, adolygu a chyflwyno tystiolaeth yn ôl y gofyn, ar gyfer adrannau ac ymchwiliadau penodol.
Mae swyddi ar gael yn ardal Pont-y-pŵl ond byddant yn gwasanaethu ardal gyfan yr heddlu. Gallwn gynnig oriau amser llawn a rhan amser. Gallwn gynnig gwaith sifft hefyd os oes angen.
I wneud cais, bydd gofyn i chi gwblhau eich cais cyflawn a darparu 500 gair am eich profiad ymchwiliol a manylion unrhyw hyfforddiant achrededig.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â centralrecruitment@gwent.police.uk
Sylwer: Ni fyddwn yn penodi nes y byddwn wedi derbyn cadarnhad o fetio llawn, geirdaon, a phrofion iechyd.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.