Teitl y Swydd: Swyddog Rhyngwladol
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 4: £27,200 - £29,916
Lleoliad: Unrhyw un o brif swyddfeydd yr Urdd
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Dyma swydd i unigolyn brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar brosiectau rhyngwladol yr Urdd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol ar 07834709082 neu mali@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 25 Medi am hanner nos
Dyddiad Cyfweld – 2 Hydref (0900 – 1500)
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.