Swydd:
Prentis Rheoli Prosiectau Seilwaith
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Cyflog Byw Cenedlaethol
Cyfeirnod:
REC002525
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
30-04-2025

Disgrifiad swydd

Bod yn chi eich hun

Bod yn rymus

Bod yn brentis Trafnidiaeth Cymru

 

Prentis Rheoli Prosiectau Seilwaith

 

Math o gontract: Contract am gyfnod penodol o 3 flynedd

**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**

 

Ein Hacademi Prentisiaeth

 

Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosibl mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa.

 

Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru.

 

 

Beth fyddai fy nghyfrifoldebau?

Bydd y Prentis Rheoli Prosiectau yn cyfrannu at lwyddiant y tîm a’r sefydliad ehangach drwy helpu mewn amrywiaeth o feysydd gweinyddu a sicrhau bod prosiectau trafnidiaeth TrC yn cael eu dogfennu, eu bod yn cydymffurfio, o fewn y cwmpas, ar amser ac yn unol â’r gyllideb.

 

Byddwch hefyd yn astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, Rheoli Prosiectau ar Lefel 4, gyda’n darparwr cymwysterau ALS. Y cyfnod safonol ar gyfer y cymhwyster hwn yw 15 mis. 

 

Mae’r swydd hon yn golygu gweithio’n hybrid a bydd gofyn i chi weithio o’n swyddfa yn Llys Cadwyn, Pontypridd, am o leiaf dri diwrnod yr wythnos.

 

A oes unrhyw ofynion hanfodol?

  • Dealltwriaeth sylfaenol o becynnau MS Office
  • Gallu bod yn greadigol wrth ddatrys problemau
  • Yr awydd i weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Gallu blaenoriaethu a gweithio o fewn terfynau amser penodol
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm i gyflawni amcan

 

 

A yw’n addas i mi?

 

I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi.

  • Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed ac nid oes terfyn oedran uchaf. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yr isafswm oedran yn uwch ar gyfer swyddi lle mae diogelwch yn hollbwysig.
  • Ni ddylech chi fod wedi ennill cymhwyster tebyg neu lefel uwch yn barod yn y swydd brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch chi’n gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi wneud cais am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.

 

Sgiliau Cymraeg

Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Y camau nesaf

Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.

 

Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y’u rhestrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall. 

 

Diwrnod Asesu

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn ni’n eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.

 

Cyfle cyfartal

 

Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o fod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni. 

 

Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir. 

 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam. 

 

** Sylwch: Wrth lenwi eich cais, os ydych chi’n cael trafferth rhoi’r dyddiadau i mewn gan ddefnyddio’r calendr, rhowch nhw eich hun er mwyn sicrhau bod y dyddiadau’n cael eu cofnodi **

 

Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2025.

 

 

*Rydyn ni’n cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Rydyn ni’n annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth.