Swydd:
Graddedig Adnoddau Dynol
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£27,000
Cyfeirnod:
REC01144
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
16-03-2025

Disgrifiad Swydd

Bod yn chi eich hun 

Bod yn rymus 

Bod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru 

 

Graddedig Adnoddau Dynol 

 

Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis 

 

Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion 

P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, mae ein cynllun i raddedigion yn gyfle i gyflymu eich gyrfa.  

 

Beth fyddai fy nghyfrifoldebau? 

Byddwch chi’n cyfrannu at ddatblygu a darparu gwasanaethau pobl ar draws Trafnidiaeth Cymru gan sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a phrosesau ar waith ac yn cael eu dilyn. Byddwch chi hefyd yn sicrhau bod prosiectau pobl yn cael eu cyflawni’n brydlon ac yn cyfrannu at y cynllun pobl cyffredinol.  

  

A oes unrhyw ofynion hanfodol? 

  • Gradd/Gradd-brentisiaeth mewn pwnc perthnasol fel Adnoddau Dynol neu Reoli Busnes gyda modiwl Adnoddau Dynol. 
  • Diddordeb brwd i ddilyn gyrfa ym maes Adnoddau Dynol.  
  • Ymwybyddiaeth o Gyfraith Cyflogaeth y DU.  
  • Gallu cyfathrebu’n hyderus mewn ffordd sy'n dwyn perswâd ar lafar ac ar bapur, gan ddangos y gallu i ddylanwadu a dewis dull cyfathrebu priodol sy’n addas ar gyfer y gynulleidfa. 
  • Gallu canfod, dadansoddi a dehongli gwybodaeth berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn datrys problemau mewn ffordd greadigol a datblygu datrysiadau gwybodus. 

 

Sgiliau Cymraeg 

Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

 

Y camau nesaf 

Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs. 

 

Cyfle cyfartal 

Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o gael gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.  

 

Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.  

 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.