Bod yn chi eich hun
Bod yn rymus
Bod yn brentis Trafnidiaeth Cymru
Prentis Adnoddau Dynol
Math o gontract: Contract am gyfnod penodol o 2 flynedd
**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein Hacademi Prentisiaeth
Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosibl mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa.
Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru.
Beth fyddai fy nghyfrifoldebau?
Bydd y prentis Adnoddau Dynol yn helpu’r Gyfarwyddiaeth Cwsmeriaid a Diwylliant ehangach drwy ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni nifer o fentrau AD a chael profiad o’r swyddogaeth pobl ehangach.
Byddwch yn astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, CIPD Lefel 3, gydag un o’n partneriaid dibynadwy sy’n cynnig prentisiaethau ALS, gan ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr yn y swydd ar yr un pryd. Nod eich prentisiaeth yw eich datblygu i fod yn aelod medrus o dîm TrC. Efallai y bydd cyfleoedd yn y dyfodol hefyd i astudio tuag at y cymhwyster Lefel 5.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
A yw’n addas i mi?
I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y camau nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.
Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y’u rhestrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Diwrnod Asesu
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn ni’n eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Cyfle cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o fod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
** Sylwch: Wrth lenwi eich cais, os ydych chi’n cael trafferth rhoi’r dyddiadau i mewn gan ddefnyddio’r calendr, rhowch nhw eich hun er mwyn sicrhau bod y dyddiadau’n cael eu cofnodi **
Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2025.
*Rydyn ni’n cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Rydyn ni’n annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth.