Mae Cartrefi’n Gyntaf Gwynedd yn brosiect newydd cyffrous sydd wedi'i gynllunio i ddarparu dihangfa barhaol o ddigartrefedd i bobl ag anghenion cymhleth, nad yw gwasanaethau prif ffrwd wedi gallu eu cefnogi'n llwyddiannus.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a sefydliadau'r trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol neu breifat, bydd Cartrefi’n Gyntaf Gwynedd yn cynnig llwybr uniongyrchol o ddigartrefedd i ddiogelwch cartref sefydlog.
Bydd angen darparu lefel uchel o gymorth personol, ynghyd â mynediad at wasanaethau eraill sydd eu hangen i ddiwallu anghenion iechyd a lles ac i hyrwyddo integreiddio cymdeithasol ac economaidd. Ni fydd llety'n dibynnu ar dderbyn cymorth, a bydd y prosiect yn gweithio gydag unigolion ar eu telerau eu hunain, ar eu cyflymder eu hunain, gyda'r prif nod o gynnal tenantiaethau.
Bydd y Swyddog Cartrefi’n Gyntaf Gwynedd yn rhan o dîm a fydd yn :-
Mae hon yn swydd hyd at 35 awr (oriau i'w drafod)
Cysylltwch gyda post@swyddle.cymru am becyn cais