Swydd:
Pennaeth Addysg
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£68,979.26 - £71,639.68
Cyfeirnod:
ACEOT3101/RB
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
National Museum of Wales
Dyddiad Cau:
02-02-2025

Pennaeth Addysg - Head of Learning

Math o swydd wag: Parhaol/Llawn Amser
Categori: Addysg
Ystod cyflog: £68,979.26 - £71,639.68
Oriau: 35 (37 os oes contract 37 awr gan yr unigolyn eisoes)
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Cymraeg yn hanfodol - hyfedredd

Crynodeb o'r Swydd

Bydd y Pennaeth Addysg yn cyfarwyddo ac yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu Strategaeth Addysg Amgueddfa Cymru a'r rhaglenni cyhoeddus cysylltiedig, gan ddefnyddio'r casgliadau a'r amgueddfeydd fel ysbrydoliaeth. 

Mae addysg, yn yr ystyr ehangaf, yn rhan ganolog o bwrpas Amgueddfa Cymru. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu cyfleoedd addysg ar gyfer pobl o bob oedran a chefndir.

Fel uwch arweinydd a Phennaeth Adran o fewn y Gyfadran Profiad, Addysg ac Ymgysylltu, bydd deiliad y swydd  ⁠hefyd yn dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr y Gyfadran yn ôl y gofyn. Bydd yn codi proffil gwaith Amgueddfa Cymru ym maes addysg, iechyd a lles gyda rhanddeiliaid gwleidyddol allweddol a noddwyr, ac yn cryfhau effaith Amgueddfa Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Bydd cyfweliadau yn digwydd: w/d 10 Chwefror 2025.